Rhyfel Mawr Irmandiña
Chwyldro cymdeithasol a chenedlaetholgar rhwng 1467 a 1469 gan bobl Galisia oedd Rhyfel Mawr Irmandiña. Yr enw Galisieg ar y chwyldroadwyr oedd Yr Irmadiños, a chlensiwyd eu hymgyrch gan orthrwm Teyrnas Castilla. Mae'n debygol mai dyma'r chwyldro mwyaf a welodd Ewrop yn y 15g.[1][2]
Yng ngwanwyn 1467 y taniwyd y wreichionen gyntaf pan oedd y werin bobl, merched, morwyr a gwŷr yr eglwys wedi cael llond bol o afiechydon (e.e. epidemig 1466), newyn a chael eu trin yn wael gan uchelwyr y wlad; roedd effaith rhyfel cartref gwleidyddol Coroa de Castela hefyd yn ffactor. Ffurfiodd y werin frawdoliaeth sanctaidd (Santa Irmandade) a chynyddwyd eu niferoedd fel caseg eira oherwydd y teimladau dwfn eu bod wedi cael eu camdrin am gyhyd.
Y cefndir
[golygu | golygu cod]Nid dyma'r tro cyntaf i'r Irmandiños ddod ynghyd i wrthwynebu'r drefn. Cafwyd sawl gwrthryfel mewn gwahanol rannau o Galisia cyn hyn. Yn ôl yr hanesydd Carlos Barros Guimeráns y tro cyntaf i'r Frawdoliaeth ymgynull oedd yng ngwrthryfel 1418-1422 yn Santiago de Compostela.
Er bod Brenhiniaeth Galisia wedi'u huno i raddau gyda Choron a Brenhiniaeth Castilla a Brenhiniaeth León yn 1037 roedd ganddi nodweddion tra gwahanol, gan gynnwys elfenau ffiwdal, crefyddol ac wrth gwrs ei mynyddoedd a'i cadwai ar wahân. Manteisiai'r uchelwyr ar hyn: yr Osorios yn Monforte de Lemos a Sarria, y Andrade yn Pontedeume, y Moscosos yn Vimianzo er enghraifft, a gorthryment y bobl gyffredin yn ddi-stop.[3]
Cafwyd dau chwyldro:
- Irmandade Fusquenlla (y Frawdoliaeth Fusquenlla) rhwng 1431 a 1435, a
- Grande Guerra Irmandiña ("Rhyfel Mawr Irmandiña") rhwng 1467 a 1469.
Y rhyfel ei hun
[golygu | golygu cod]Yr arweinydd y tu ôl i'r gwrthryfel oedd Alonso de Lanzós - a hynny gyda chefnogaeth lwyr Harri IV o Gastilla, a 'chynghorau' rhanbarthol A Coruña, Betanzos, Ferrol a Lugo. Mae'r ffaith i'r cynghorau hyn ymuno yn codi'r lefel i 'ryfel' a 'chwyldro' yn hytrach nag 'ymgyrch' neu 'ymosodiad'.
Ar gychwyn y rhyfel ffodd llawer o'r uchelwyr i Bortigal neu Gastilla, ond yn 1469 dechreuodd Pedro Madruga wrthymosodiad o Bortiwgal, gyda chefnogaeth llawer o'r uchelwyr a oedd yno ar ffo. Cefnogwyd ef hefyd gan frenhinoedd Portiwgal a Chastilla a byddin arfog archesgob Santiago de Compostela. Roedd gan fyddin Pedro Madruga gwell arfau, a llawer o arfau dyfeisgar, newydd e.e. y mysged mwyaf diweddar, yr arquebuse. Ac oherwydd hyn, trechwyd yr Irmandiña, daliwyd yr arweinyddion a'u lladd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Nodyn:Cita libro
- ↑ As primeiras revoltas medievais xa tiveran lugar en Europa durante a segunda metade do século XIV, despois da peste negra de 1348: a Jacquerie na Francia en 1358 ou a Revolta campesiña de 1381 en Inglaterra
- ↑ MacKay, tud. 176–177.
- Devia, Cecilia (2009). La violencia en la Edad Media: la rebelión irmandiña. Biblioteca de Escrituras Profanas, 18 (yn Spanish). Vigo: Academia del Hispanismo. ISBN 978-84-96915-49-7.CS1 maint: unrecognized language (link)
- MacKay, Angus (1977). Spain in the Middle Ages: From Frontier to Empire, 1000–1500. New York: St. Martin's Press. ISBN 0-312-74978-3.
- Payne, Stanley G. (1973). A History of Spain and Portugal. 1. Madison: University of Wisconsin Press. ISBN 0-299-06270-8.
- Vicens Vives, Jaime (1967). Approaches to the History of Spain. Berkeley: University of California Press.