Castell Bryn Amlwg

Oddi ar Wicipedia
Castell Bryn Amlwg
Mathcastell, amddiffynfa gylch, enclosure castle Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.453°N 3.22659°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO1674384601 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Castell Bryn Amlwg yn heneb gofrestredig a leolir ger Anchor, Swydd Amwythig, dafliad carreg o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.[1]

Ymddengys i'r castell gael ei godi yn ystod y 12fed a'r 13eg ganrif, ac roedd ganddo dyrau a phorthdy.[2] Dim ond cloddweithiau sydd i'w gweld bellach.

Ym 1963 cloddiwyd y safle gan archeolegwyr, gan ddangos bod llawer o strwythur y cylchfur gwreiddiol wedi'i wneud o bren cyn cael ei ddisodli'n ddiweddarach â cherrig.[1]

Mae agosrwydd y castell i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn brawf o'i arwyddocâd strategol. Nid yw ei adeiladwr yn hysbys, ond mae ei debygrwydd i Gastell Dolforwyn yn awgrymu y gall mai Llywelyn ap Gruffudd a'i cododd yn ei ffurf derfynol, efallai tua diwedd y 1260au.

Mae tystiolaeth archeolegol o losgi yn awgrymu bod y castell wedi disgyn neu wedi'i ddifetha yn ystod rhyfel 1276-77.[3]

Mae man cyfarfod Swydd Amwythig, Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed yn agos iawn, yng nghymer Nant Rhyd-y-fedw a Nant Rhuddwr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Castell Bryn Amlwyg: a ringwork and enclosure castle", Historic England; adalwyd 26 Mai 2023
  2. Plantagenet Somerset Fry, The David & Charles Book of Castles (Newton Abbot: David & Charles, 1980)
  3. Craig Jones, Princely Ambition: Ideology, Castle-building, and Landscape in Gwynedd, 1194-1283 (Hatfield: University of Hertfordshire Press, 2022), tt.132-3