Anchor, Swydd Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anchor, Swydd Amwythig
Awdurdod unedol Cyngor Swydd Amwythig
Swydd Swydd Amwythig
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Gorllewin Canolbarth Lloegr
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Pentref bychan yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Anchor. Fe'i lleolir ar y ffordd B4368 bron am y ffin rhwng Cymru (Powys) a Lloegr. Dyma'r pentref mwyaf gorllewinol yn Swydd Amwythig. Mae'n agosach i'r Drenewydd ym Mhowys na'r dref agosaf yn Swydd Amwythig, sef Clun.

Gorwedd tarddle Afon Clun ger Anchor yn Ffos y Rhes (Foss y Rhess), ger y ffin. Mae Dyffryn Clun yn ardal wledig iawn sy'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig. Tueddir i gyfeirio at yr afon wrth ffurf Saesneg ei henw, ond Afon Colunwy oedd yr enw Cymraeg gwreiddiol. Enwyd cantref canoloesol Colunwy ar ôl yr afon a cheir Fforest Clun hefyd.


Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato