Castell Cwm Clais

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Castell Bolan)
Castell Cwm Clais
Mathcastell mwnt a beili, castell, mwnt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.613482°N 3.781011°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS7678192024 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM289 Edit this on Wikidata

Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Castell Cwm Clais, neu Castell Bolan.[1] heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Cwmafon, Castell-nedd Port Talbot; cyfeiriad grid SS767920. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry.

Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: GM289 .[2]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cwm Clais, motte; Castell Bolan". Coflein. Cyrchwyd 20 Ebrill 2019.
  2. Data Cadw
  3. ["Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato