Dio Cassius

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cassius Dio)
Dio Cassius
GanwydLucius Claudius Cassius Dio Cocceianus Edit this on Wikidata
2 g Edit this on Wikidata
Nicaea Edit this on Wikidata
Bu farwNicaea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddConswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRoman History Edit this on Wikidata
TadCassius Apronianus Edit this on Wikidata

Roedd Dio Cassius, neu Cassius Dio (ganed rhwng 155 a 164 - ar ôl 229) yn hanesydd Groegaidd o'r cyfnod Rhufeinig. Cyhoeddodd hanes Rhufain dros gyfnod o 983 mlynedd, o ddyfodiad Aeneas i'r Eidal hyd y flwyddyn 229.

Ganed Dio Cassius Dio yn ninas Nicaea yn Bithynia. Roedd yn fab i Cassius Apronianus, aelod o Senedd Rhufain. Yn ôl traddodiad roedd ei fam yn ferch i'r hanesydd ac athronydd Groegaidd Dio Chrysostom,ond nid oes prawf o hyn. Ysgrifennai mewn Groeg, ond gellir ei ystyried fel Rhufeiniwr hefyd o ystyried cefndir ei dad.

Daeth ef ei hun yn Seneddwr dan Commodus ac yn rhaglaw Smyrna ac wedyn yn gonswl suffect tua 205, ac yn broconswl Affrica a Pannonia. Roedd yn ffefryn mawr gan yr ymerawdwr Alexander Severus, a'i gwnaeth yn gonswl am yr eildro.

Roedd ei Hanes Rhufain yn cynnwys 80 llyfr. Dim ond rhannau o'r 36 llyfr cyntaf sydd ar gael, ond mae'r llyfrau dilynol hyd llyfr 54 bron yn gyflawn; mae'r rhain yn trafod y cyfnod o 65 CC hyd 12 CC. Mae llyfrau 56-60, yn trin y cyfnod o 9 OC. hyd 54, yn gyflawn, tra mai dim ond rhannau o'r ugain llyfr diwethaf sydd wedi goroesi.

Ystyrir Dio Cassius yn hanesydd dibynadwy ac yn ffynhonnell werthfawr ar nifer o bynciau, er enghraifft ar hanes y Celtiaid.