İznik
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Nicaea)
| Math | dinas, tref |
|---|---|
| Poblogaeth | 44,236 |
| Cylchfa amser | TRT, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Spandau, Khulo, Tutin, Pithiviers, Talas, Jingdezhen |
| Nawddsant | Saint Darius |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bursa |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 753 km² |
| Gerllaw | Lake İznik |
| Cyfesurynnau | 40.4289°N 29.7194°E |
| Cod post | 16x |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw İznik. Ei hen enw oedd Nicea (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gristnogol, Cyngor Cyntaf Nicea ac Ail Gyngor Nicea, a rhoddodd y ddinas ei henw i Gredo Nicea.
Sefydlwyd y ddinas yn 310 CC gan Antigonos I Monophthalmos. Rhwng 1204 a 1261, Nicea oedd prifddinas Ymerodraeth Nicea, a ffurfiwyd pan ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd wedi i ddinas Caergystennin gael ei chipio gan y croesgadwyr yn 1204. Yn 1261 llwyddodd Ymerodraeth Nicea i gipio Caergystennin yn ôl, ac adferwyd yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Saif y ddinas ar ochr ddwyreniniol Llyn İznik, ac fe'i hamgylchynir gan furiau 10 m o uchder, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae'r boblogaeth tua 15,000.
Pobl enwog
[golygu | golygu cod]- Hipparchus (2 CC), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr
