Capel Sant Hilari, Dinbych
![]() | |
Math | capel, safle archaeolegol, adfail eglwys, tŵr, tŵr eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dinbych ![]() |
Sir | Dinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 131 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1818°N 3.41985°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE005 ![]() |
Eglwys hynafol yn Ninbych yw Capel Sant Hilari. Fe'i codwyd tua'r flwyddyn 1300 fel capel i wasanaethu'r dref gaerog newydd a dyfodd o gwmpas Castell Dinbych. Fe'i cysegrwyd i Sant Hilari (Hilarius). Cyfeirnod OS (map 116): SJ 052659.
Dim ond y tŵr a rhan fach o'r mur gorllewinol sy'n dal i sefyll heddiw, mewn safle ar gyrion y dref ei hun. Dymchwelwyd gweddill yr adeilad yn 1923 am ei fod mewn cyflwr peryglus. Mae hen luniau a chynlluniau yn dangos y bu ganddo gorff eglwys (nave), braich ogleddol a changell gyda chladdgell oddi tano.[1]
Mae'r adfeilion a'r safle yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, 1995), tud. 131.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Capel St Hilari Archifwyd 2010-12-15 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Cadw.