Capel Methodistaidd, Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Capel Methodistaidd, Trefynwy
Matheglwys Brotestannaidd, capel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1837 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr23 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8126°N 2.71185°W Edit this on Wikidata
Cod postNP25 3BW Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth neoglasurol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Cynlluniwyd Capel y Methodistiaid, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru, gan George Vaughan Maddox. Fe godwyd yr adeilad ychydig yn ôl o Sgwâr Sant Ioan a hynny yn 1837. Mae'r galeri gwreiddiol yn dal ynddo a llofft yr organ a'r pulpud cywrain yntau.[1]

Mae wedi ei osod yn ôl o'r brif stryd yn unol â threfn yr oes - lle fod yr adeilad anghydffurfiol i'w weld yn ormod o fwgan i'r drefn arferol ac i'r sefydliad. Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* gan Cadw. Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn y 18g roedd y Methodistiaid newydd yn her i'r drefn a'r sefydliad yn Nhrefynwy, fel llawer i le arall. Ambell dro llabuddiwyd y gweinidogion gyda cherrig! A rhegwyd arnynt gan yr hogia lleol - yn aml iawn gydag aelodau'r eglwys yn procio drwg, ychydig y tu ôl iddynt.[3] Lladdwyd un gweinidog gan y dorf wrth iddo bregethu yn yr awyr agored yn Y Gelli Gandryll, ychydig i lawr y ffordd. Ond ni allodd dim eu hatal a chyn hir roedden nhw wedi sefdlu capel yn Inch Lane (Heol y Gloch erbyn heddiw) a chapel Wesla yn Heol Werhead.

Bu John Wesley'n pregethu yma yn 1779 a phedair gwaith wedi hynny.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Monmouth Methodist Church". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-21. Cyrchwyd 10 Ionawr 2012.
  2. http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-2342-wesleyan-methodist-chapel-monmouth
  3. Bold, Rev. W E (1987), "Methodism and its Beginnings in Monmouth", Capel Methodistaidd Trefynwy