Neidio i'r cynnwys

Camfa'r Cŵn, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Camfa'r Cŵn
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.044551°N 2.993966°W Edit this on Wikidata
Map

Lôn gul yng nghanol hanesyddol Wrecsam yw Camfa'r Cŵn (Saesneg: College Street).

Lleoliad

[golygu | golygu cod]

Mae Camfa'r Cŵn yn cysylltu Allt y Dref â Rhes y Deml yng nghalon ganoloesol Wrecsam ar bwys Eglwys San Silyn. Mae'r lôn yn dechrau wrth dafarndy hanesyddol y Cambrian Vaults (nawr o'r enw The Parish) ac yn dringo'r bryn tuag at y grisiau ar ddechrau Rhes y Deml.

Mae enw Saesneg y stryd, College Street, yn un o nifer o enwau strydoedd eglwysig yng nghanol Wrecsam,[1] gyda Stryt yr Eglwys, Stryt yr Abad, Stryt y Priordy a Rhes y Deml. Yn y gorffennol, roedd Wrecsam yn cael ei rhannu yn Wrexham Abbot, eiddo'r Eglwys, a Wrexham Regis, eiddo'r Goron. [2]

Mae enw Cymraeg trawiadol y stryd yn cyfeirio at yr angen i atal cŵn rhag mynd i mewn i gyffiniau Eglwys San Silyn. [3]

Yn wreiddiol roedd rheilffordd Wrecsam i Ellesmere yn rhedeg yn wrth ymyl tafarndy'r Cambrian.[4]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Un o'r strydoedd byrraf a mwyaf cul yng nghanol Wrecsam yw Camfa'r Cŵn. Mae gan y stryd gymeriad tebyg i Res y Deml, sydd gyfochr â mynwent Eglwys San Silyn.

Mae dau adeilad rhestredig ar Gamfa’r Cŵn, tafarndai hanesyddol y Commercial a’r Cambrian Vaults. Mae presenoldeb y ddwy dafarn ar y stryd yn dangos pwysigrwydd traddodiadol y diwydiant bragu yn y rhan hon o’r dref.[4]

Lluniau 

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Seal, Bobby. "Abbot and Regis: a tale of two townships". Psychogeographic Review. Cyrchwyd 15 Medi 2022.
  2. "Map of the town of Wrexham in the townships of Wrexham Regis and Wrexham Abbot". Casgliadywerin.cymru. Cyrchwyd 15 Medi 2022.
  3. Jones, John Idris (2018). Secret Wrexham. Amberley Publishing. ISBN 9781445677002.
  4. 4.0 4.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 15 Medi 2022.