Calendr Hebreaidd
Jump to navigation
Jump to search
Mae'r calendr Hebreaidd (הלוח העברי ha'luach ha'ivri), neu'r calendr Iddewig, yn galendr lloerheulol a gaiff ei ddefnyddio heddiw fel arfer mewn cysylltiad â chysyniadau crefyddol. Defnyddir y calendr hwn i bennu gwyliau Iddewig a pha bryd y darllenir y Torah yn gyhoeddus a dyddiadau yahrzeits pan gofir am farwolaeth perthynas. Yn Israel, mae'n galendr swyddogol a ddefnyddir at bwrpas dinesig a hyd yn oed fel canllaw amser ar gyfer amaethu. Y flwyddyn gyfredol yw 5776.[1]
Enwau'r Misoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Daw enwau'r misoedd a geir yn y calendr Hebreaidd o Fabilon yn wreiddiol. Dechreuodd yr Iddewon eu defnyddio yn ystod eu halltudiaeth yn 6g cyn Crist.
- ניסן (Nisan)
- אייר (Iyar)
- שיון (Sifan)
- טמוז (Tamws)
- אב (Af)
- אלול (Elwl)
- תשרי (Tishrei)
- מרחשון (Marcheshfan)
- כסלו (Cislef)
- טבת (Tefet)
- שבט (Shfat)
- אדר (Adar)