Calderdale
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
| Prifddinas | Halifax |
| Poblogaeth | 210,082 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 363.9608 km² |
| Cyfesurynnau | 53.72°N 1.97°W |
| Cod SYG | E08000033 |
| GB-CLD | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Calderdale Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Calderdale.
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 364 km², gyda 211,455 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Bradford i'r gogledd-ddwyrain, Kirklees i'r de-ddwyrain, Manceinion Fwyaf i'r de-orllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd-orllewin.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn saith plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Halifax, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Brighouse, Elland, Hebden Bridge, Mytholmroyd, Sowerby Bridge a Todmorden.
Enwir y fwrdeistref ar ôl Afon Calder, y mae ei dyfroedd uchaf yn llifo trwyddi.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 1 Awst 2020
