Dinas Bradford
![]() | |
| Math | ardal gyda statws dinas, bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
| Prifddinas | Bradford |
| Poblogaeth | 537,173 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Susan Hinchcliffe |
| Gefeilldref/i | Gaillimh |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 366.4198 km² |
| Cyfesurynnau | 53.792°N 1.754°W |
| Cod SYG | E08000032 |
| Cod OS | SE164331 |
| GB-BRD | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | executive of Bradford Metropolitan District Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Bradford City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Bradford Metropolitan District Council |
| Pennaeth y Llywodraeth | Susan Hinchcliffe |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Dinas Bradford (Saesneg: City of Bradford).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 366 km², gyda 539,776 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Leeds i'r dwyrain, Kirklees a Calderdale i'r de, Swydd Gaerhirfryn i'r gorllewin, a Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 19 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Bradford ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Baildon, Ilkley, Keighley, Shipley a Silsden.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 2 Awst 2020

