Cadwaladers

Oddi ar Wicipedia
Cadwaladers
Math
busnes
DiwydiantParlwr hufen iâ
Sefydlwyd1927
PencadlysCaerdydd
Cynnyrchhufen iâ
Lle ffurfioCricieth
Gwefanhttp://www.cadwaladers.com/ Edit this on Wikidata

Cadwyn o gaffis yw Cadwaladers a sefydlwyd yn wreiddiol yng Ngwynedd.[1] Cychwynnwyd y parlwr hufen iâ gwreiddiol gan y gŵr a gwraig David a Hannah Cadwalader yn 1927 yng Nghricieth mewn siop gyffredinol. Pasiwyd y busnes i'w mab, Dafydd, a newidiodd bwyslais y siop drwy ganolbwyntio ar werthu hufen iâ.[2] O ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd yn cynhyrchu a gwerthu hufen iâ ar y safle yn defnyddio 'rysáit cyfrinachol' Hannah Cadwalader.[3]

Yn dilyn marwolaeth Dafydd Cadwalader yn 1983, prynwyd Cadwalader's gan deulu o fentergarwyr Cymreig, teulu'r Andrews sydd hefyd yn berchen ar Castle Leisure.[4] Ehangwyd y busnes gan y perchnogion newydd ar draws Cymru. Erbyn heddiw mae caffis Cadwalader i'w cael ym Metws-y-coed, Ynys y Barri, Cricieth, Porthmadog, Dinbych-y-pysgod a 3 lleoliad yng Nghaerdydd. Mae un lleoliad yn Lloegr, yng Ngerddi Trentham, Swydd Stafford.[5][6]

Yn ogystal â hufen iâ fanila gwreiddiol Cadwalader a hufen iâ o wahanol flasau, mae'r caffis yn gwerthu cymysgeddau unigryw o goffi a te ynghyd â bwyd ysgafn.[3]

Mae'r siop yng Nghricieth yn cynnal nosweithiau jazz wythnosol tu allan i'r tymhorau brig, rhwng Medi a Mehefin.[7]

Trafferthion ariannol[golygu | golygu cod]

Yn Medi 2015, fe aeth y busnes i ddwylo'r gweinyddwr yn dilyn nifer o broblemau ariannol yn cynnwys: colledion ar ôl agor siop newydd ym Manceinion yn 2010; gorfod cau caffi Portmeirion yn 2013 a gwerthiant gwael yn haf 2015.[8] Fe aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr Deloitte ond fe achubwyd y cwmni wrth i reolwr y cwmni brynu'r busnes. Roedd yn rhaid cau 5 siop ond fe sicrhawyd 92 swydd.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ice cream firm Cadwaladers creates 30 new jobs in expansion". bbc.co.uk. BBC News. Cyrchwyd 2016-04-05.
  2. "Cadwalader ice cream family reunite in Criccieth". dailypost.co.uk. Trinity Mirror Merseyside. Cyrchwyd 2016-04-05.
  3. 3.0 3.1 "It's Cadwaladers Time!". www.cadwaladers.co.uk. Cyrchwyd 2016-04-05.
  4. "Cadwalader's opens new ice cream store in Manchester". walesonline.co.uk. Media Wales. Cyrchwyd 2016-04-05.
  5. "Cadwalader's Ice Cream". gluten-free-onthego.com. Cyrchwyd 31 Mawrth 2009.[dolen marw]
  6. "Out for a Bite: Cadwalader's Ice Cream Cafe, Criccieth". northwales.co.uk. Cyrchwyd 31 Mawrth 2009.
  7. "Cadwaladers Ice Cream a tourist attraction in Criccieth, Gwynedd, to visit". www.touruk.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-19. Cyrchwyd 2016-04-05.
  8. "CADWALADER (ICE CREAM) LIMITED - Filing history (free information from Companies House)". beta.companieshouse.gov.uk. Cyrchwyd 2016-04-05.
  9. "92 jobs saved as Cadwaladers ice cream chain bought out of administration". walesonline.co.uk. Cyrchwyd 2016-04-05.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]