Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | De Swydd Efrog |
| Prifddinas | Rotherham |
| Poblogaeth | 260,800 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Chris Read |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | De Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 286.5343 km² |
| Cyfesurynnau | 53.4308°N 1.3547°W |
| Cod SYG | E08000018 |
| GB-ROT | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | cabinet Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham |
| Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham |
| Pennaeth y Llywodraeth | Chris Read |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham (Saesneg: Metropolitan Borough of Rotherham).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 287 km², gyda 265,411 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Sheffield i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Doncaster i'r gogledd-ddwyrain, Swydd Nottingham i'r de-ddwyrain, a Swydd Derby i'r de.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan De Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 30 o blwyf sifili, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Rotherham, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Dinnington, Maltby a Wath-upon-Dearne.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 26 Awst 2020
