Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley
| Math | bwrdeistref fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | De Swydd Efrog |
| Prifddinas | Barnsley |
| Poblogaeth | 245,199 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | De Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 329.0777 km² |
| Cyfesurynnau | 53.55°N 1.47°W |
| Cod SYG | E08000016 |
| GB-BNS | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Barnsley Metropolitan Borough Council |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley (Saesneg: Metropolitan Borough of Barnsley).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 329 km², gyda 246,866 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Doncaster i'r dwyrain, Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham a Dinas Sheffield i'r de, Swydd Derby, i'r gorllewin, a Gorllewin Swydd Efrog i'r gogledd.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan De Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 17 o blwyf sifili, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Barnsley, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Brierley, Hoyland, Penistone ac Wombwell.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 29 Awst 2020
