Bwrdeistref Fetropolitan Doncaster
| Math | bwrdeistref fetropolitan, ardal gyda statws dinas |
|---|---|
| Ardal weinyddol | De Swydd Efrog |
| Prifddinas | Doncaster |
| Poblogaeth | 310,542 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Ros Jones |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | De Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 568.0219 km² |
| Cyfesurynnau | 53.5225°N 1.1286°W |
| Cod SYG | E08000017 |
| GB-DNC | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | cabinet of Doncaster City Council |
| Corff deddfwriaethol | council of Doncaster Metropolitan Borough Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Doncaster |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ros Jones |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Doncaster (Saesneg: Metropolitan Borough of Doncaster).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 568 km², gyda 311,890 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Fetropolitan Rotherham i'r de-orllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley i'r gorllewin, Gorllewin Swydd Efrog, Gogledd Swydd Efrog a Dwyrain Swydd Efrog i'r gogledd, Swydd Lincoln i'r dwyrain, a Swydd Nottingham i'r de-ddwyrain.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan De Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 43 o blwyf sifili, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Doncaster, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Askern, Bawtry, Conisbrough, Edlington, Hatfield, Mexborough, Stainforth, Tickhill a Thorne.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 29 Awst 2020
