Buddug Williams
Jump to navigation
Jump to search
Buddug Williams | |
---|---|
Ganwyd |
1932 ![]() Cefneithin ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor teledu, actor ffilm ![]() |
Actores ac awdures Gymreig yw Buddug Williams (ganwyd 1932), sydd yn fwyaf adnabyddus am chwarae cymeriad Marian Rees rhwng 1999 a 2016 yn nrama sebon Pobol y Cwm ar S4C. Ar gychwyn y gyfres yn 1974 bu'n chwarae cymeriad arall, Bet Harries, mam Sabrina a Reg. Ysgrifennodd ei hunangofiant yn y gyfrol Merch o'r Cwm.[1]
Bu farw cymeriad Anti Marian yn ei chwsg mewn pennod a ddarlledwyd ar 24 Chwefror 2016.[2]
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'n hanu o bentref Cefneithin yng Nghwm Gwendraeth. Bu'n hyfforddi fel athrawes yn Ngholeg y Barri ac aeth i ddysgu am gyfnod byr yn Birmingham.
Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]
- Pobol y Cwm - Bet Harries (1974), Marian Rees neu 'Anti Marian' (1999–2016)
Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]
- Very Annie Mary, 2001, ffilm teledu - Buddug Mair Williams
- Twin Town, 1997 - Mrs. Mort
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Merch o'r Cwm (Dref Wen, 2008) ISBN 9781855968288
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dathlu'r 40 yng Nghwmderi , BBC Cymru Fyw, 16 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2016.
- ↑ Diwedd cyfnod - Cwsg mewn hedd. BBC Pobol y Cwm (24 Chwefror 2016).
|