Britheg berlog
Britheg berlog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Boloria |
Rhywogaeth: | B. euphrosyne |
Enw deuenwol | |
Boloria euphrosyne (Linnaeus, 1758) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg berlog (neu'r Brith Berlog)[1], sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion perlog; yr enw Saesneg yw Pearl-bordered Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Boloria euphrosyne.[2][3] Mae'r fritheg berlog yn löyn byw prin iawn, sy'n lleihau o ran niferoedd, ond mae ef, bellach, wedi'i ail-sefydlu'n llwyddiannus ym mryniau Pumlumon, Powys, yng Nghraig-Adwy-Wynt, Dyffryn Clwyd ac yn nwyrain Cymru.[4].
Hoff fwyd y siani flewog ydy blodau'r fioled.
Daw enw'r glôyn hwn o'r "perlau" gwynion o liw a welir ar ymylon ochr isaf (neu o dan) ei adenydd. Chevrons duon sydd gan y fritheg berlog fach, fodd bynnag, yn hytrach na rhai coch. Mae gan y fenyw adenydd fwy crwn na'r gwryw, ac mae ei lliw ychydig yn dywyllach. Du a gwyn ydy lliw'r siani flewog, gyda llinellau arian ar hyd ei chefn. Mae gan y gwryw chwarenau arogl ar ei adenydd er mwyn dennu cymar. Caiff ei gymysgu gyda'r fritheg berlog fach yn aml iawn.
-
Britheg berlog
-
△ Britheg berlog
Tiriogaeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ceir ledled Ewrop: o'r gwledydd Sgandinafaidd hyd at ogledd Sbaen, ac o Iwerddon hyd at Rwsia a rhan o Asia.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Ar ôl cyplysu, mae'r fenyw yn dodwy ei hwyau ar ddail rhedynen marw - y Pteridium aquilinum a dail y fioled (neu '"sodlau'r gwcw", sef Viola riviniana, y Viola canina neu'r Viola palustris). Cânt eu dodwy yn unigol rhwng canol Mai a diwedd Mehefin. Lliw hufen sydd i'r wyau hyn ac maen nhw'n deor ar ôl 10-14 diwrnod.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fritheg berlog yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bedol, Papur Bro Rhuthun a'r Cylch; Cyf 36, rhif 4; Ebrill 2013; tudalen7
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ nbn gateway distribution map; gwefan Saesneg; adalwyd 15 Ebrill 2013
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr gwyfynod a gloynnod byw
- Cymdeithas Edward Llwyd a Llên Natur
- Britheg berlog fach
- Britheg frown