Neidio i'r cynnwys

Brian Thomas

Oddi ar Wicipedia
Brian Thomas
Ganwyd18 Mai 1940 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 2012 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Clwb Rygbi Castell-nedd, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr Rygbi'r Undeb Cymreig oedd Brian Thomas (18 Mai 19409 Gorffennaf 2012).[1] Bu'n chwaraewr a hyfforddwr i dîm rygbi Castell-nedd. Cafodd 21 gap dros Gymru rhwng 1964 a 1969, a bu'n aelod o dîm buddugol y Pum Gwlad.[2]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Thomas ym Mhont-walby, dros yr afon o Lyn-nedd, a chwaraeodd rygbi fel plentyn. Dewiswyd i gynrychioli ei wlad ar dîm Ysgolion Uwchradd Cymru. Wedi gadael yr ysgol, aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n chwarae dros dîm y brifysgol. Enillodd tri 'Blues' yn chwarae yn y Varsity Match ym 1960, 1961 a 1962. Y tu allan i'r brifysgol, chwaraeodd dros ei dîm lleol, Castell-nedd, yn ogystal, gan wynebu tîm De Affrica a oedd ar daith ym 1961, fel rhan o dîm Aberavon a Chastell-nedd ar y cyd. Wedi gadael Caergrawnt, dychwelodd i Gastell-nedd. Cafodd ei ddewis i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf pan oedd yn 22 oed, fel rhan o dîm Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1963.

Cynrychiolodd Gymru 21 gwaith rhwng 1963 a 1969. Aeth ar daith gyda thîm Cymru ddwywaith, ym 1964 i Dde Affrica, gan chwarae pob un o'r pedwar gêm, ac ym 1969 i Awstralasia a Ffiji. Bu'n gapten dros Gastell-nedd rhwng 1966 a 1968.

Ym 1981, daeth Thomas yn reolwr dros Gastell-nedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw o dan ei lyw, enillont bump teitl Pencampwyr Clybiau Cymru ym 1986/87, 1988/89 a 1989/90, yn ogystal â Chynghrair Gyntaf Cymru ym 1990/91 a 1995/96.

Roedd hefyd yn dad yng nghyfraith i'r chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, Rowland Phillips.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Brian Thomas player profile. Scrum.com. Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2012.
  2.  Brian Thomas, Neath and Wales rugby player and coach, dies. BBC (9 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 9 Gorffennaf 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.