Bobby Atherton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bobby Atherton
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnRobert Atherton
Dyddiad geni(1876-07-29)29 Gorffennaf 1876
Man geniBethesda, Cymru
Dyddiad marw19 Hydref 1917(1917-10-19) (41 oed)
SafleCanol Cae/Ymosodwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1897Heart of Midlothian
1897–1903Hibernian75(25)
1903–1905Middlesbrough60(13)
1905Chelsea0(0)
Tîm Cenedlaethol
1899-1905Cymru9(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Robert 'Bobby' Atherton (29 Gorffennaf 187619 Hydref 1917). Llwyddodd i ennill 9 cap dros Gymru rhwng 1899 a 1905 ac roedd yn gapten ar dîm Hibernian pan enillon nhw Gwpan FA Yr Alban ym 1902.

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Hibernian[golygu | golygu cod y dudalen]

Er cael ei eni ym Methesda, gogledd Cymru, cafodd Atherton ei fagu yn Yr Alban.[1] Ar ôl cyfnod gyda tîm ieuenctid Dalry Primrose a chyfnod byr gyda Hearts, ymunodd Atherton gyda Hibs ar ddechrau tymor 1897–98.[1].

Roedd Atherton yn gapten ar dîm Hibs gipiodd Cwpan yr Alban ym 1902, y tro diwethaf i Hibs godi'r tlws ac roedd hefyd yn gapten ar y tîm enillodd Bencampwriaeth yr Alban ym 1902-03, y tro cyntaf yn hanes y clwb.[1][2]

Middlesbrough[golygu | golygu cod y dudalen]

Symudodd Atherton i Middlesbrough ym 1903 lle chwaraeodd 66 o gemau a dod yn gapten ar y clwb dros gyfnod o dri thymor.[3] Symudodd i Chelsea ym 1905 ond ar ôl cyfnod byr yn Llundain cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed.

Gyrfa rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwuddodd Atherton i ennill 9 cap a sgorio dwy gôl dros [[ Gymru rhwng 1899 a 1905. Daeth ei ddwy gôl yn erbyn Yr Alban ym 1904 ac yn ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon ym 1905.[4][5]

Atherton oedd y chwaraewr cyntaf yn hanes Hibs i ennill cap rhyngwladol i unrhyw wlad heb law am Yr Alban pan enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Iwerddon yn Belfast ym 1899 ac roedd hefyd y chwaraewr cyntaf yn hanes clwb Middlesbrough i ennill cap rhyngwladol dros unrhyw wlad.[1]

Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ymddeol o bêl-droed symudodd Atherton yn ôl i Gaeredin gan ddechrau gweithio fel stiward yn y Llynges Fasnachol. Tybir iddo fod yn farw pan gafodd y llong roedd yn hwylio arni, y Brittania, ei suddo gan Uboat Almaeneg ym 1917.[1][6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]