Bledri ap Cydifor

Oddi ar Wicipedia
Bledri ap Cydifor
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1116 Edit this on Wikidata
Swyddpenadur Edit this on Wikidata

Uchelwr, cyfarwydd (storïwr traddodiadol) a chyfieithydd o Gymro oedd Bledri ap Cydifor (fl. hanner cyntaf y 12g). Credir ei fod wedi chwarae rhan flaenllaw yn y broses o ledaenu'r chwedlau Cymraeg i'r Normaniaid a thrwyddynt hwy i gyfandir Ewrop.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd Bledri yn frodor o Ddeheubarth gyda chartref yng nghyffiniau Caerfyrddin. Cofnodir iddo gael capteiniaeth castell Robert Courtemayn yn yr ardal yn y flwyddyn 1116.[1]

Diolch i'w gysylltiadau â'r Normaniaid yn ne Cymru, daeth yn rhugl yn y Ffrangeg ac ymddengys ei fod yn perthyn i ysgol o gyfieithwyr yn Ne Cymru yn y 12g. Cofnodir ei enw fel latemeri ('lladmerydd' neu 'cyfieithydd') mewn dogfennau sy'n cofnodi y nawdd a roddai i Briordy Caerfyrddin. Cyfeiria Gerallt Gymro at un Bledhericus fel gŵr a fu'n enwog fel meistr ar y rhamantau. Yn ôl Gerallt bu farw rhai blynyddoedd cyn ei ddyddiau ef. Ceir cyfeiriadau at 'Bledericus Wallensis' mewn dogfen sy'n dyddio o 1130 hefyd: credir mai at Bledri ap Cydifor y mae'r ddogfen yn cyfeirio.[1]

Yn ôl copïydd ail ran y Conte de Graal, 'Bleheris' (sef Bledri) a luniodd un o'r fersiynau cynharaf o ramant Peredur, un o'r Tair Rhamant. Ceir cyfeiriad ato hefyd fel awdur testun o ramant Trystan ac Esyllt.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 C. Bullock-Davies, Profesional Interpreters and the Matter of Britain (Caerdydd, 1966).