Betws-y-crwyn
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 197 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.423°N 3.171°W |
Cod SYG | E04011220, E04008483 |
Cod OS | SO203812 |
Cod post | LD7 |
- Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).
Pentref bychan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Betws-y-crwyn neu Betwsycrowyn (Saesneg: Bettws-y-Crwyn).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif y pentref o fewn milltir a hanner i'r ffin â Chymru, ac mae'n un o nifer o bentrefi Seisnig sydd ag enw Cymraeg arnynt. Gorwedd 400m uwch lefel y môr, sy'n ei wneud yn un o'r pentrefi uchaf yn Swydd Amwythig, a Lloegr hefyd. Fe'i lleolir tua 16 milltir i'r gorllewin o dref Craven Arms, Swydd Amwythig, a 9 milltir i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd, Powys.
Y pentref agosaf yw Quabbs. Mae amlwd Anchor yn gorwedd o fewn y plwyf yn ogystal.
Enw
[golygu | golygu cod]Y gair betws, benthyciad o'r Hen Saesneg bed-hus ('tŷ gweddi, capel') yw elfen gyntaf yr enw.[2] Ond ymddengys nad y gair cyfarwydd crwyn (ffurf lusog croen) sydd yn yr ail ran.[3] Wrth drafod yr enw, awgrymodd Eilert Ekwall, '[it] may be Welsh crowyn 'pigsty'.[4] Cytunodd Margaret Gelling â'r awgrym[5] ac mae prosiect 'Key to English Place-names' project Prifysgol Nottingham o'r un farn.[6] Mae gan y cair crowyn neu crewyn ystod o ystyron, gan gynnwys 'adeilad bychan y cedwir anifeiliaid ynddo, ffald, twlc, cut, cwb, cenel; cawell, basged'.[7]
Ysgrifennid yr enw gynt fel Bettus or Bettws. Nid yw'r ail elfen ('crewyn'/'crwyn') i'w gweld cyn y 19g.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 30 Ebrill 2021
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru.
- ↑ Eilert Ekwall, The Concise Oxford Dictionary of English Place-names (third edition, Oxford: Clarendon Press, 1947), p.38.
- ↑ 5.0 5.1 Margaret Gelling in collaboration with H. D. G. Foxall, The place-names of Shropshire. Part 1, The major names of Shropshire, English Place-Name Society, vol. 62–3 (1990), p.47.
- ↑ University of Nottinham, Key to English Place-names
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru.