Bera Bach
| |
Math |
mynydd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
807 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
53.2068°N 3.936°W ![]() |
Amlygrwydd |
21 metr ![]() |
Cadwyn fynydd |
Eryri ![]() |
![]() | |
Mynydd yn y Carneddau yn Eryri yng Ngogledd Cymru yw Bera Bach. Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd-orllewin oddi ar brif grib y Carneddau ger Garnedd Uchaf.
Er gwaethaf yr enwau, mae Bera Bach ychydig yn uwch na chopa Bera Mawr gerllaw, sy'n 794 medr. Gellir ei ddringo yn weddol hawdd o bentref Bethesda, gan ddringo i'r copa llai Gyrn Wigau gyntaf, yna i Drosgl ac ymlaen i Fera Bach. Gellir hefyd dringo Bera Mawr o Abergwyngregyn heibio'r rhaeadr, a mynd ymlaen i Fera Bach.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Is-Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 807 metr (2648 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'