Bathafarn (cylchgrawn)
Gwedd
| Enghraifft o: | cyfnodolyn, cylchgrawn |
|---|---|
| Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1946 |
| Dechrau/Sefydlu | c. 1946 |
| Lleoliad cyhoeddi | y Bala |
| Dynodwyr | |
Mae Bathafarn yn gylchgrawn a gyhoeddir gan Gymdeithas Hanes yr Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru ac yn gyfnodolyn hanesyddol, dwy-ieithog sy'n cynnwys erthyglau ysgolheigaidd ar hanes Methodistiaeth yng Nghymru, adolygiadau o lyfrau a nodiadau cymdeithasol. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1946.
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.