Barry Flanagan
Barry Flanagan | |
---|---|
Ganwyd | 11 Ionawr 1941 Prestatyn |
Bu farw | 31 Awst 2009 Santa Eulària des Riu |
Dinasyddiaeth | Cymru Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerflunydd, arlunydd y Ddaear, gwneuthurwr printiau, ysgythrwr, arlunydd, arlunydd graffig |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Drummer, Thinker on a Rock |
Arddull | celf gyhoeddus |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | http://barryflanagan.com |
Cerflunydd o Gymru oedd Barry Flanagan OBE RA (11 Ionawr, 1941 - 31 Awst, 2009). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerfluniau efydd o ysgyfarnogod ac anifeiliaid eraill.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Barry Flanagan ar 11 Ionawr 1941 ym Mhrestatyn. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl, yn gyntaf yn Foxhunt Manor ac wedyn yng Ngholeg Mayfield, Dwyrain Sussex. Rhwng 1957 a 1958 astudiodd bensaernïaeth yng Ngholeg Celf a Chrefft Birmingham. Astudiodd gerflunwaith yn Ysgol Gelf Saint Martin yn Llundain rhwng 1964 a 1966, ac o 1967 i 1971 bu'n athro yn Saint Martin's ac yn yr Ysgol Gelf a Dylunio Canolog.[2]
Bu farw Flanagan ar 31 Awst 2009 o glefyd motor niwron.[3]
Roedd yn destun ffilm fywgraffyddol gan Peter Bach, The Man Who Sculpted Hares: Barry Flanagan, A Life.[4]
Cyhoeddwyd llyfr am ei fywyd Barry Flanagan: Poet of the Building Site gan Robin Marchesi, The Irish Museum of Modern Art 2011.[5]
Ym 1991 cafodd ei ethol yn aelod o'r Academi Frenhinol a'i urddo'n OBE. Bu'n fyw yn Nulyn am gyfnod a derbyniodd dinasyddiaeth Wyddelig.
Bu'n briod i Sue Lewis a bu iddynt dwy ferch. Wedi ysgaru a'i wraig bu'n byw efo'i bartner Renate Widmann bu iddynt fab a merch. Wedi gwahanu a Widmann bu'n fyw efo Jessica Sturgess ei bartner hyd ddiwedd ei oes.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Mae cerflun Flanigan Meddyliwr ar Graig yng Ngardd Cerfluniau Oriel Genedlaethol Celf yn Washington, DC [6]
Cafodd ei gerflun o ysgyfarnog Drymiwr Mawr Llawchwith yn cael ei arddangos ym mharc Union Square (Dinas Efrog Newydd) rhwng 18 Chwefror a 24 Mehefin 2007.
Mae ei gerflun o ddwy ysgyfarnog Nijinski Drych Mawr 1993, yn cael ei arddangos y Skulpturen Park Köln yn Cwlen.
Cynhaliodd Tate Britain sioe ôl-weithredol Early Works 1965-1982 rhwng Medi 2011 ac Ionawr 2012. Roedd yr arddangosfa hon yn cynnwys llawer o enghreifftiau o'i ddarnau llai adnabyddus gan ddefnyddio deunyddiau fel brethyn a rhaff, yn ogystal â rhai o'r cerfluniau ysgyfarnog efydd gynnar y daeth yn enwog amdanynt.
Mewn arddangosfa a gynhaliwyd gan Sotheby's yn Chatsworth House' Swydd Derby' ym mis Medi-Hydref 2012, dangoswyd pymtheg o weithiau Flanagan mewn lleoliad parcdir. Roeddent yn cynnwys Nijinski Mawr ar Ben Eingion a'r Ysgyfarnog Nijinski wedi'u gosod ar ddau ben Pwll y Gamlas.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Meddyliwr ar y graig
-
Y Drymiwr
-
Cougar ac Eliffant, Dulyn
-
Ysgyfarnog yn bocsio ar ben eingion, Erevan
-
Ysgyfarnog yn Rhedeg, Maastreicht
-
Ysgyfarnog yn rhedeg ar ben cloch, Dulun
-
Ysgyfarnog yn neidio dros gloch, Llundain
Arddangosfeydd unigol dethol
[golygu | golygu cod]- 2019: "Barry Flanagan", Oriel Ikon, Birmingham [8]
- 2011: "Barry Flanagan: Gweithiau rhwng 1964 - 1982," Tate Britain
- 2010: "Barry Flanagan: Gweithiau 1966-2008," Orielau Waddington, Llundain
- 2009: Paul Kasmin (Park Avenue Armory), Efrog Newydd
- 2009: "Barry Flanagan: Hare Coursed," Canolfan Gelf Newydd, Roche Court, Salisbury, Wiltshire
- 2008: Amgueddfa Gelf Vero Beach, Vero Beach, Florida
- 2008: Orielau Waddington, Llundain
- 2007: Oriel Paul Kasmin, Efrog Newydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lampert, Catherine (2009-09-01). "Obituary | Sculptor | Barry Flanagan". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-16.
- ↑ "Barry Flanagan". Waddington Custot. Cyrchwyd 2019-10-16.
- ↑ "Barry Flanagan: Sculptor known for his distinctive giant bronzes". The Independent. 2009-09-04. Cyrchwyd 2019-10-16.
- ↑ "BBC Four - The Man Who Sculpted Hares: Barry Flanagan, A Life". BBC. Cyrchwyd 2019-10-16.
- ↑ Marchesi, Robin, 1951-. Barry Flanagan : poet of the building site. Milano. ISBN 9788881588244. OCLC 754707396.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "National Gallery of Art - Sculpture Garden". web.archive.org. 2010-05-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-27. Cyrchwyd 2019-10-16.