Neidio i'r cynnwys

Ban wedy i dynny

Oddi ar Wicipedia
Wynebddalen

Mae Ban wedy i dynny air yngair allan o hen gyfreith Howel ða, vap Cadell brenhin Kymbry, ynghylch chwechant mylneð aeth heibio, wrth yr hwn van y gellir deall bot yr offeiriait y pryd hynny yn priodi gwrageð yn dichwith ac yn kyttal ar wynt in gyfreithlawn[nb 1] yn bamffled pedwar plyg ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a gyhoeddwyd ym 1550. Er nad oes enw awdur ar y ddogfen, mae bron yn sicr mae William Salesbury oedd yr awdur.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ym 1534 ymwrthododd yr eglwys Seisnig ag awdurdod y Pab pan fethodd Harri VIII â sicrhau dirymiad Pab o'i briodas â Catherine o Aragón. Cyflymodd y Diwygiad Seisnig dan lywodraeth Edward VI[1]

Ym mis Tachwedd, 1548, pasiwyd mesur yn y Senedd i gyfreithloni priodasau offeiriaid Eglwys Loegr. Ei enw oedd: An acte to take awaye all posityve Lawes against Marriage of Priestes.[2]

Roedd y ddeddf newydd yn achosi cryn gyffro cymdeithasol. Roedd y mesur newydd yn torri ar draws un o'r hen draddodiadau crefyddol mwyaf sylfaenol, sef bod offeiriaid yn ŵyr di-briod. Ysgrifennwyd llyfrau a thraethodau o blaid ac yn erbyn y gyfraith newydd. Mae Ban wedy i dynny yn dadlau o blaid hawl offeiriaid i briodi.

Ban wedy i dynny oedd y pamffled cyntaf a argraffwyd yn y Gymraeg a’r traethawd gwleidyddol cyntaf a argraffwyd yn yr iaith hefyd.[3]

Awduraeth

[golygu | golygu cod]

Er nad oes enw awdur ar y ddogfen, mae'n debygol iawn mai William Salesbury oedd yn gyfrifol amdano. Cyhoeddwyd y llyfr gan wasg Robert Crowley. Cyhoeddodd Crowley llyfrau eraill gan Salesbury yn yr un cyfnod

"The Baterie of the Popes Botereulx, commonlye called the high Altare." (1550)[4]

"Briefe and playne Introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong," 1550[5], a

"Kynniver Llith a Ban" (1551)[6]

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Roedd tueddiadau Catholig yn parhau yn gryf yng Nghymru, er gwaethaf y diwygiad Protestannaidd. Roedd rhai yn aros yn driw i awdurdod y Pab, ond roedd nifer o'r rhai oedd yn derbyn y drefn newydd o awdurdod y Brenin dros Eglwys Loegr yn parhau i ddilyn yr hen arferion crefyddol. Bwriad Salesbury oedd perswadio y naill garfan a'r llall, bod yna traddodiad Cymreig o offeiriaid yn priodi.[3]

Parhaodd rhannau o gyfraith Hywel Dda i fod mewn grym hyd basio deddfau uno 1535-1542, 8 i 15 mlynedd cyn cyhoeddi'r pamffled. Mae'r pamffled yn dyfynnu'r rhannau hynny o gyfraith Hywel sydd yn ymwneud â phlant offeiriaid priod, i brofi bod offeiriaid priod yn rhan o'r traddodiad Cymreig. Gan fod Edward VI yn ddisgynnydd i Hywel roedd deddfu o blaid offeiriaid priod yn rhan o draddodiad ei ach frenhinol ef. Mae'r pamffled yn adrodd hanes Hywel yn danfon dirprwyaeth i'r Pab i wirio bod ei gyfraith yn gydnaws a chyfraith yr eglwys. Gan i'r Pab cytuno bod deddfau Hywel yn gydnaws mae'n dangos bod offeiriaid priod Cymreig hyd yn oed yn cael sêl bendith Babyddol.

Cyhoeddwyd adargraffiad adlun o'r pamffled yng nghyd ag adlun o Yny lhyvyr hwnn gan wasg Brifysgol Cymru ym 1902 (golygydd John H. Davies)[7]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]
  1. Dyfyniad wedi ei thynnu gair am air allan o gyfraith Hywel Dda ap Cadell, brenin Cymru, tua chwe chan mlynedd yn ôl, oddi wrth yr hwn gellir deall bod offeiriaid y pryd hynny yn priodi gwragedd heb wrthwynebiad ac yn cael cyfathrach rywiol a hwynt yn gyfreithiol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Aston, Margaret (1993). The king's bedpost : Reformation and iconography in a Tudor group portrait. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-44375-X. OCLC 27388564.
  2. The Clergy Marriage Act 1548 (2 & 3 Edw 6 c 21)
  3. 3.0 3.1 Ban wedy i dynny-Rhagair ar Wicidestun
  4. Salesbury, William (2011-12). The baterie of the Popes Botereulx, commonly called the high altare. Compiled by W.S. in the yere of oure Lorde. 1550. https://ota.bodleian.ox.ac.uk/repository/xmlui/handle/20.500.12024/A11355.
  5. Salesbury, William (2012-10). A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters of the British tong, (now commenly called Walsh) wherby an English man shal not only with ease read the said tong rightly: but markyng ye same wel, it shal be a meane for him with one labour and diligence to attaine to the true and natural pronuncation of other expediente and most excellente langauges Set forth by W. Salesburye.. https://ota.bodleian.ox.ac.uk/repository/xmlui/handle/20.500.12024/A11356.
  6. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  7. Wales (1902). Ban wedy i dynny air yngair allan o hen gyfreith Howel dda, vap Cadell brenhin .A Certaine Case, etc. [Edited by J.H. Davies.] Welsh & Eng. OCLC 504289335.