Astwrieg

Oddi ar Wicipedia
Astwrieg
asturianu, bable
Siaredir yn Sbaen
Rhanbarth Asturias
Cyfanswm siaradwyr 110,000
  • 50,000 yng nghanol Asturias[1]
  • 30,000 yng ngorllewin Asturias[1]
  • 20,000 yn nwyrain Asturias[1]
  • 450,000 siaradwyr ail-iaith (1994)
Teulu ieithyddol
System ysgrifennu Lladin
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn Asturias
Sbaen
Rheoleiddir gan Academia de la Llingua Asturiana
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2 ast
ISO 639-3 ast
Wylfa Ieithoedd 51-AAA-ca
Testun alt
Map o leoliad Astur-Leonese, gan gynnwys Asturian

Iaith frodorol cymuned ymreolaethol Tywysogaeth Astwrias yw Astwrieg (neu Astwreg). Er bod dadlau ai iaith ynteu dafodiaith ydyw, mae'r Astwrieg neu 'asturianu' neu 'bable' bellach yn cael ei chydnabod yn swyddogol a'i hamddiffyn i ryw raddau gan Lywodraeth y Dywysogaeth. Iaith Romáwns ydyw (Gorllewin-Iberaidd), sy'n perthyn yn agos i Sbaeneg a Galisieg.

Yn ôl ystadegau diweddar, mae tua 100,000 yn ei siarad fel mamiaith a 450,000 wedi'i dysgu.[2] Ni chynigir addysg trwy gyfrwng yr iaith er bod ysgolion cynradd bellach yn ei dysgu a gellir ei hastudio fel rhan o'r bachillerato. Ceid rhaglen newyddion yn yr iaith ar un adeg ond fe'i clywir ar y radio'n weddol aml o hyd. Mae rhai o sianeli lleol Astwrias, megis Tele Gijón, yn dangos ambell raglen yn yr iaith hefyd. Mae cyfnod o normaleiddio ieithyddol yn dechrau dod i rym mewn rhai lleoedd, gwelir rhai arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog ac mae Cyngor Dinas Gijón, er enghraifft, wedi sefydlu swyddfa arbennig i hyrwyddo a datblygu defnydd o'r iaith mewn sawl maes. Fodd bynnag, oherwydd statws isel yr iaith, yn enwedig yn y gorffennol, mae nifer o siaradwyr yn gyndyn i gydnabod eu bod yn ei siarad.

Rhai ymadroddion[golygu | golygu cod]

  • Dydd Da - Bonos díes.
  • Nos da - Bones nueches.
  • William ydw i - Llámome William.
  • "Meddyg" ydw i - Soi "médicu".
  • Ble mae...? - ¿Ú ta...?
  • Hwyl - Ta lluéu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Astwrieg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd