Astudiaethau strategol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o is-feysydd cysylltiadau rhyngwladol yw astudiaethau strategol sydd yn ymwneud â strategaeth a grym milwrol a'r moddion mae gwladwriaethau yn cymhwyso'u galluoedd milwrol at ddibenion gwleidyddol. Gellir ei ystyried yn agwedd ar wyddor filwrol, a maes rhyngddisgyblaethol ydyw sydd yn tynnu ar ddulliau a chysyniadau o'r celfyddydau, gwyddoniaeth, a gwyddorau cymdeithas.[1]

Datblygodd astudiaethau strategol fel maes ymchwil i ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol a gwneuthurwyr polisi wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd (1939–45). Ysgrifennai un o arloeswyr disgyblaeth cysylltiadau rhyngwladol, yr Athro E. H. Carr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn ail argraffiad (1946) The Twenty Years' Crisis: "Pe bai pob awdur ar faterion rhyngwladol yn yr ugain mlynedd ddiwethaf wedi astudio cwrs gorfodol ar bwnc strategaeth elfennol, ni fyddent wedi ysgrifennu'r pentyrrau o lol sydd am y pwnc".[2] Ers hynny, trodd nifer o ysgolheigion a chynghorwyr polisi eu sylw at bosibiliadau'r agwedd academaidd at strategaeth.[3] Un o brif sefydlwyr astudiaethau strategol oedd Bernard Brodie, academydd cysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Yale, a ddadleuai yn ei draethawd arloesol "Strategy as Science" (1949) y dylai strategaeth filwrol gael ei hastudio yn wyddonol, gyda methodoleg yn debyg i'r dulliau o drin economeg, er mwyn ei chymhwyso at ddatrys problemau ymarferol.[4]

Bu astudiaethau strategol yn faes pwysig iawn trwy gydol y Rhyfel Oer (1947–91), yn enwedig yn Unol Daleithiau America. Yn nhermau damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, cafodd ei cysylltu gan amlaf â'r ysgol realaidd gan ei bod yn canolbwyntio ar ryfel, grym milwrol, a strategaethau gwladwriaethau. Gosodwyd syniadau strategwyr hanesyddol megis Carl von Clausewitz yn seiliau i astudiaethau strategol. Dadleuai meddylwyr radicalaidd, er enghraifft damcaniaethwyr beirniadol ac ysgolheigion ym maes astudiaethau heddwch, bod astudiaethau strategol yn lliwio bydolwg y lluoedd arfog a'r llywodraethau ac felly yn cyfiawnhau grym milwrol yn hytrach na'i astudio a safbwynt di-duedd.[5]

Bu astudiaethau strategol yn llai amlwg wedi diwedd y Rhyfel Oer, ond cafwyd rhywfaint o atgyfodiad yn sgil ymosodiadau 11 Medi, 2001 a'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Baylis a James J. Wirtz, "Introduction" yn Strategy in the Contemporary World, golygwyd gan Baylis, Wirtz et al. (Rhydychen: Oxford University Press, 2002), t. 4.
  2. E. H. Carr, The Twenty Years' Crisis, 1919—1939: An Introduction to the Study of International Relations (Llundain: Macmillan Press, 1946), t.111. Dyfyniad gwreiddiol: "If every prospective writer on international affairs in the last twenty years had taken a compulsory course in elementary strategy, reams of nonsense would have remained unwritten"
  3. Barry Buzan, An Introduction to Strategic Studies: Military Technology and International Relations (Llundain: Macmillan Press, 1987), t. 1.
  4. Baylis a Wirtz, "Introduction" (2002), t. 5.
  5. 5.0 5.1 Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), t. 284.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • John Baylis a James J. Wirtz, "Introduction" yn Strategy in the Contemporary World, golygwyd gan Baylis, Wirtz et al. (Rhydychen: Oxford University Press, 2002), t. 1–14.
  • Barry Buzan, An Introduction to Strategic Studies: Military Technology and International Relations (Llundain: Macmillan Press, 1987).
  • E. H. Carr, The Twenty Years' Crisis, 1919—1939: An Introduction to the Study of International Relations (Llundain: Macmillan Press, 1946).
  • Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017).