Astrid Lindgren

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Astrid Lindgren
Astrid Lindgren (cropped).jpg
GanwydAstrid Anna Emilia Ericsson Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1907 Edit this on Wikidata
Vimmerby Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 2002 Edit this on Wikidata
Stockholm Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethsgriptiwr, awdur plant, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPippi Longstocking, Emil i Lönneberga, Karlsson-on-the-Roof, The Six Bullerby Children, Bill Bergson, Ronia the Robber's Daughter, The Brothers Lionheart, Mio, My Son Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth plant, stori dylwyth teg Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolParti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden Edit this on Wikidata
PriodSture Lindgren Edit this on Wikidata
PlantLars Lindgren, Karin Nyman Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Diwylliant ac Addysg, Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn, Deutscher Jugendliteraturpreis, Plac Nils Holgersson, Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet, Expressens Heffaklump, Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen, Officier des Arts et des Lettres‎, Gwobr Illis Quorum, Urdd y Wên, Urdd Vasa, Officier des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.astridlindgren.com, http://www.astridlindgren.se Edit this on Wikidata
Llofnod
Astrid Lindgren signature.svg

Awdur llyfrau plant o Sweden oedd Astrid Anna Emilia Lindgren (née Ericsson), neu fel arfer, Astrid Lindgren, "Cymorth – Sain" ynganiad  (14 Tachwedd 1907 - 28 Ionawr 2002). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chyfres Pippi Hosan-hir (Pippi Långstrump; 1945 ymlaen) a'r canlynol: Emil i Lönneberga (1963 a 1997), Karlsson på taket (Saesneg: Karlsson-on-the-Roof; 1955 ymlaen), a Barnen i Bullerbyn ('Chwe Phlentyn Bullerby', Six Bullerby Children neu The Children of Noisy Village yn UDA); 1947. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen yn 1978.[1]

Gweithiai Lindgren ar Fwrdd Golygyddol Llenyddiaeth Plant yn Nhŷ Cyhoeddi Rabén a Sjögren yn Stockholm ac ysgrifennodd dros 30 o lyfrau i blant. Yn Ionawr 2017, credir mai hi yw'r awdur a gyfieithwyd fwyaf yn y byd, a'r pedwerydd awdur mwyaf awdurdodol ar ôl Enid Blyton, H. C. Andersen a'r Brodyr Grimm. Hyd yma (2019) mae Lindgren wedi gwerthu tua 165 miliwn o lyfrau ledled y byd.[2][3] [4][5][6]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Näs, ger Vimmerby, Småland, Sweden ar 14 Tachwedd 1907 a bu farw yn Stockholm. Mae llawer o'i llyfrau wedi'u seilio ar ei hatgofion o'r ardal lle'i ganed.

Roedd Lindgren yn ferch i Samuel August Ericsson (1875-1969) a Hanna Jonsson (1879-1961). Roedd ganddi ddwy chwaer, Stina ac Ingegerd, a brawd, Gunnar Ericsson, a ddaeth yn aelod o senedd Sweden.

Cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen; 1978.
Amgueddfa Astrid Lindgren, Vimmerby, Sweden

Ar ôl cwbwlhau ei chyfnod yn yr ysgol, cymerodd Lindgren swydd gyda phapur newydd lleol yn Vimmerby. Cafodd berthynas â'r prif olygydd (a oedd eisoes yn briod, ac yn dad) ac yn 1926 ar ôl iddi feichiogi, gofynodd iddi ei briodi. Gwrthododd a symudodd i brifddinas Stockholm, gan ddod yn deipydd a stenograffydd (ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r llyfrau mewn stenograffi). Ymhen amser, rhoddodd enedigaeth i'w mab, Lars, yn Copenhagen a'i adael yng ngofal teulu maeth. [7][8][9][10][11][12][13]

Wedi cyfnod o deithio, daeth a Lars adref at ei rhieni, a fagodd ef, tra bod Lindgren yn gweithio.

Yn 1932 priododd ei chyflogwr, Sture Lindgren (1898-1952), wedi iddo adael ei wraig. Dair blynedd yn ddiweddarach, ym 1934, rhoddodd Lindgren enedigaeth i ail blentyn, Karin, a fyddai'n dod yn gyfieithydd. Dyfeisiwyd y cymeriad Pippi Longstocking i ddifyrru Karin pan oedd hi'n sâl yn y gwely. Yn ddiweddarach, nododd Lindgren fod Karin wedi gofyn yn sydyn iddi am stori am gymeriad o'r enw "Pippi Longstocking," a chrëwyd y stori fel ymateb i'r cais hwnnw.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden ac roedd ei brawg Gunnar yn aelod o senedd Sweden.

Yn 1941 symudodd Astrid Lindgren a'i theulu i fflat yn Dalagatan, ac yno y bu hyd at ei marwolaeth yn 94 oed.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o 'Gymdeithas Y Naw' am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Diwylliant ac Addysg (1975), Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn (1997), Deutscher Jugendliteraturpreis (1956), Plac Nils Holgersson (1950), Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet (1945), Expressens Heffaklump (1970), Gwobr Selma Lagerlöf (1986), Gwobr 'Right Livelihood' (1994), Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg (1978), Gwobr Zilveren Griffel (1983), Gwobr Hans Christian Andersen (1958), Officier des Arts et des Lettres‎ (1991), Gwobr Illis Quorum (1985), Urdd y Wên, Urdd Vasa (1968), Officier des Arts et des Lettres‎[14] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. cyfieithiadau.wordpress.com; adalwyd 31 Mawrth 2019.
  2. "UNESCO's statistics on whole Index Translationum database". Databases.unesco.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-28. Cyrchwyd 22 Chwefror 2014.
  3. FAQ at Astrid Lindgren official site Nodyn:Sv icon.
  4. Galwedigaeth: https://web.archive.org/web/20171006140953/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/astrid-lindgren. https://cs.isabart.org/person/110718; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 110718.
  5. Aelodaeth: http://www.samfundetdenio.se/.
  6. Anrhydeddau: https://www.friedenspreis-des-deutschen-buchhandels.de/alle-preistraeger-seit-1950/1970-1979/astrid-lindgren.
  7. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119130583; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  8. Disgrifiwyd yn: "strid Anna Emilia Lindgren"; dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2020. "Astrid Lindgren (1907-2002)"; dyddiad cyrchiad: 4 Awst 2020.
  9. Rhyw: OCLC. (yn mul), Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Dublin, Ohio: OCLC, OCLC 609410106, dynodwr VIAF 97119817, Wikidata Q54919, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018 Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119130583; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  10. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119130583; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://web.archive.org/web/20171006140953/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/astrid-lindgren. https://brockhaus.de/ecs/julex/article/lindgren-astrid; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Astrid Lindgren. https://cs.isabart.org/person/110718; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 110718.
  11. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb119130583; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://web.archive.org/web/20171006140953/http://jeugdliteratuur.org/auteurs/astrid-lindgren. https://brockhaus.de/ecs/julex/article/lindgren-astrid; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Astrid Lindgren. https://cs.isabart.org/person/110718; dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021; dynodwr abART (person): 110718.
  12. Man geni: https://brockhaus.de/ecs/julex/article/lindgren-astrid; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Astrid Lindgren.
  13. Man claddu: "Minnet lever efter Astrid Lindgren". 26 Awst 2002. Cyrchwyd 11 Awst 2021. "I Astrids fotspår" (PDF). Cyrchwyd 11 Awst 2021.
  14. https://www.friedenspreis-des-deutschen-buchhandels.de/alle-preistraeger-seit-1950/1970-1979/astrid-lindgren.