Artie Moore

Oddi ar Wicipedia
Artie Moore
Ganwyd1887 Edit this on Wikidata
Pontllan-fraith Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1949 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata

Roedd Arthur Moore (188720 Ionawr 1949) yn arloeswr o Gymro ym myd cyfathrebu diwifr. Daeth yn enwog am glywed y neges argyfwng o'r RMS Titanic cyn i newyddion am y trychineb gyrraedd gwledydd Prydain.[1] Adeiladodd y peiriannydd hunanddysgedig ei set ddiwifr gyntaf ger ei gartref yn ne Cymru. Pan ddaeth yn hysbys o'r hyn yr oedd wedi'i wneud, gwnaeth argrafff fawr ar Guglielmo Marconi, a gynigiodd swydd i Moore. Aeth Moore ymlaen i weithio i Gwmni Marconi drwy gydol ei yrfa lle bu'n helpu i ddatblygu radio cynnar.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Arthur Moore ym Mhontllan-fraith yn 1887. Ef oedd mab hynaf y melinydd lleol, William Moore. Yn ifanc bu Moore mewn damwain yn y felin a arweiniodd at golli rhan isaf un o'i goesau. Am weddill ei oes, roedd yn gwisgo coes bren.[2] Erbyn iddo fod yn ddeg oed, datblygodd Moore ddiddordeb mewn peirianneg amatur ac addasodd feic i'w ddefnyddio gyda'i goes bren. Roedd pobl leol yn ei gofio'n crwydro o gwmpas y pentref arno. Wrth iddo dyfu, daeth yn adnabyddus fel "cymeriad" yn yr ardal. Rywbryd cyn 1909, yn fwyaf tebygol yn ei arddegau cynnar, adeiladodd Moore fodel gweithredol o injan stêm lorweddol, gan ddefnyddio turn wedi'i wneud â llaw a yrrwyd gan yr olwyn ddŵr yn y felin. Cynigiodd y model mewn cystadleuaeth yn y cylchgrawn The Model Engineer. Derbyniodd fel gwobr lyfr gan Syr Oliver Lodge o'r enw Modern Views of Magnetism And Electricity, a ddeffrodd ei ddiddordeb mewn technoleg diwifr.[3]

Gorsaf ddiwifr gartref[golygu | golygu cod]

Gan weithio ym Melin Gelligroes ym Mhontllan-fraith ger y Coed Duon, dechreuodd godi erialau gwifren ac adeiladu ei orsaf radio syml, a oedd yn cynnwys derbynnydd cydlynol a throsglwyddydd bwlch gwreichion. Ei ddawn peirianyddol a'i galluogodd i storio trydan yn ei fatris trwy eneradur wedi'i gysylltu ag olwyn y felin ei hun. Defnyddiwyd yr un generadur i wefru batris ar gyfer y ffermydd lleol nad oeddent bryd hynny wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad trydan.[2]

Roedd Moore bron yn arbrofi'n barhaus gyda diwifr erbyn hyn, yn aml yn herio ei dad ac yn aros ar ddi-hun nes yr oriau mân, yn eistedd yn ei orsaf yn gwrando ar y signalau a ddeilliai o longau, rhai lyngesol a masnachol, yn teithio dyfroedd yr arfordir o amgylch Cymru, de-orllewin Lloegr, yn ogystal a gorsafoedd ar y Cyfandir.

Weithiau, mewn ymgais i wella derbyniad byddai'n symud ei orsaf a'i gosod ar fferm yn uchel i fyny ar Fynyddislwyn.

Gan ddefnyddio technoleg trosglwyddydd bwlch gwreichionen gyfoes ond elfennol y cyfnod, gwnaeth Moore ynghyd â’i ffrind Richard Jenkins, peiriannydd trydanol yn y pwll glo lleol, yr hyn oedd yn ôl pob tebyg y defnydd cyntaf yng Nghymru o ddiwifr amatur at ddibenion busnes. Sefydlodd ail orsaf drosglwyddo a derbyn ar fferm Tŷ Llwyd, a oedd yn eiddo i dad Jenkins a wedi'i lleoli tua thair milltir a hanner i'r de o Gelligroes yn Ynysddu i gyfeiriad Casnewydd. Drwy'r orsaf yma derbyniodd Moore orchymyn dros yr aer i'r grawn gael ei ddosbarthu o'r felin i'r fferm.

Ym 1911 ymddangosodd ar dudalen flaen papur newydd Llundain The Daily Sketch ar ôl iddo godi neges o ddatganiad rhyfel llywodraeth yr Eidal ar Libya ym 1911.[4]

Ym 1912, roedd Moore yn 26 oed ac roedd ei wybodaeth a'i sgiliau adeiladu diwifr wedi gwella i'r fath raddau fel ei fod yn gallu adeiladu offer derbyn mwy sensitif. Roedd hyn yn caniatáu iddo ddechrau derbyn trosglwyddiadau yn rheolaidd. Caniataodd hyn iddo drosglwyddo gwybodaeth i deulu a thrigolion lleol sawl diwrnod cyn iddi ymddangos yn y newyddion cenedlaethol.

RMS Titanic[golygu | golygu cod]

Ei dderbyniad o neges argyfwng yr RMS Titanic a gychwynodd yrfa Moore oedd i’w gludo o’r felin fach honno yng Nghymru ac ymlaen i bethau mwy yn y maes datblygiad diwifr cynnar.

Yn ystod oriau mân y bore ar 15 Ebrill 1912, yn llofft Melin Gelligroes o’r 17eg ganrif, ger Coed Duon, Sir Fynwy, gan defnyddio offer radio syml, derbyniodd Moore signal gwan mewn Morse Code:

"CQD CQD SOS de MGY Position 41.44N 50.24W. Require immediate assistance. Come at once. We have struck an iceberg. Sinking….We are putting the women off in the boats….."

Parhaodd Moore i ysgrifennu lawr y signalau Morse yr oedd yn eu derbyn: "We are putting the passengers off in small boats" "Women and children in boats, cannot last much longer….."

Yna daeth y signal terfynol: "Come as quickly as possible old man; our engine-room is filling up to the boilers."

Trosglwyddodd Moore y newyddion i'r bobl leol ac i'r heddlu lleol, ond nid oeddent yn ei gredu. Ddeuddydd yn ddiweddarach, derbyniodd y trigolion lleol gadarnhad trwy'r wasg leol a chenedlaethol ei fod yn wir. Cadarnhaodd y papurau newydd hefyd - fel yr oedd Moore wedi honni - bod y signal trallod "SOS" (a ddefnyddiwyd gyntaf yn ymarferol yn 1909) wedi'i ddefnyddio gan weithredwyr radio'r Titanic ynghyd â'r signal trallod Prydeinig safonol "CQD", gan brofi felly bod Moore yn bendant wedi derbyn y signalau gan y llong.

Ym 1912 deallir bod pellter trosglwyddo diwifr yTitanic yn 400 milltir yng ngolau dydd, ac o bosibl hyd at 2000 o filltiroedd mewn tywyllwch. Daeth yn amlwg bellach fod Moore wedi derbyn tonnau radio o 3000 milltir gan ddefnyddio dim byd mwy na'i offer cartref amrwd ei hun.

Gyrfa diwifr[golygu | golygu cod]

Yn haf 1912, daeth gweithgareddau Moore, a'r cyhoeddusrwydd o'i gwmpas yn dilyn trychineb y Titanic, yn fuan at sylw Pwyllgor Addysg Mynwy ar y pryd, a cynigiwyd ysgoloriaeth iddo i'r British School of Telegraphy yn Clapham, Llundain. Cychwynodd felly ar ei astudiaethau ym myd gwyddoniaeth a chyfathrebu diwifr. Ar ôl astudio am dri mis yn unig, cynghorwyd Moore gan y Prifathro yno i gofrestru ar gyfer arholiad y Llywodraeth mewn Telegraffiaeth Ddi-wifr a Chôd Morse, a bu'n llwyddiannus.

Yr adeg hon y daeth gweithgareddau Moore, nid lleiaf ei dderbyniad o alwadau argyfwng Titanic, i sylw Guglielmo Marconi, "tad diwifr" ei hun. Ysgrifennodd un preswylydd lleol at Marconi i roi gwybod iddo am gyflawniad Moore. Daeth Marconi wedyn i Gelligroes i gwrdd â Moore ac i drafod ei waith a’i arbrofion, a gwahoddodd Moore i ymuno â Chwmni Marconi fel drafftsmon.

Erbyn 1914, trosglwyddwyd Moore i Adran Offer Llongau Cwmni Marconi, ac ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n gweithio fel technegydd mewn "ffitiadau arbennig y Morlys" - yn gweithio ar y llongau masnach arfog a oedd yn gweithredu'n ddirgel ar y môr agored, ac a elwid yn longau-Q. Goruchwyliodd hefyd y gwaith o osod offer diwifr ar y llongau rhyfel dosbarth Dreadnought HMS Invincible a HMS Inflexible a stemiodd yr 8,000 o filltiroedd i'r de i Ynysoedd y Falkland yn 1914, i wynebu bygythiad llynges yr Almaen i ynysoedd de'r Iwerydd. Drwy ei gysylltiad â'r Morlys, daeth Moore yn ddiweddarach yn gynorthwyydd i'r Capten HJ Round (a oedd ei hun yn Brif Gynorthwyydd i Guglielmo Marconi), a bu'n gweithio gyda Capten Round ar ddatblygiad pellach y falf radio thermionig, dyfeisiau oedd yn hanfodol ar gyfer datblygiadau radio i'r presennol.

Cyfnod rhwng y rhyfeloedd[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918, penodwyd Moore i sefydliad y Marconi Company yn Lerpwl. Yno cymerodd ofal yr Adran Offer Llongau a oedd newydd ei ffurfio, lle'r oedd y trosglwyddyddion diweddaraf a mwyaf diweddar yn cael eu gosod.

Ym 1922 bu'n goruchwylio gosod y treill-long cyntaf i gael offer telegraffi diwifr.

Flwyddyn yn ddiweddarach trosglwyddwyd ef o Gwmni Marconi i Gwmni Cyfathrebu Morol Rhyngwladol Marconi a'u sefydliad yn Avonmouth, lle y penodwyd ef yn Rheolwr.

Heb fod yn fodlon ar “reoli” yn unig, arweiniodd ysbryd arloesol a dyfeisgar Moore iddo gofrestru patent ar ffurf gynnar iawn o Sonar (a elwir yn "Echometer") ym 1932. Fe'i dyfynnir yn y detholiad canlynol o'i ysgrif goffa a ysgrifennwyd gan y Cynghorydd Richard Vines, Prifathro Ysgol Dechnegol Pontllan-fraith: "rhoddodd ei feddwl dyfeisgar lawer o ddyfeisiadau i wyddoniaeth a bydd yn cael ei gofio fel un a lwyddodd trwy ddiwydiant." Dyfeisiodd hefyd ddyfeisiadau mesur eraill: "Roedd ei gar Alvis wedi'i ffitio â chyfarpar a fyddai'n cofnodi ar ddeial effeithlonrwydd petrol ar gyflymder amrywiol gyda llwythi amrywiol trwy bob gêr".

Bywyd diwedddarach a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Arhosodd Moore yn sefydliad Marconi yn Avonmouth hyd ei ymddeoliad yn 1947, ond erbyn 1948, gyda'i iechyd yn gwaethygu symudodd i Jamaica i wella. Roedd yn 62 oed erbyn hyn, ac ni fyddai byth yn dychwelyd i Gymru, ei famwlad. Ar ôl chwe mis yn unig yn Jamaica gadawodd am Loegr, ac ar ddydd Iau 20 Ionawr 1949 bu farw mewn cartref ymadfer ym Mryste.

Ym 1949 daeth gwerthfawrogiad cyhoeddus Cynghorydd Sir Fynwy Richard Vine o Moore i gloi gyda'r geiriau: "Mae Gelligroes yn ddieithriad wedi'i gysylltu ag Islwyn y bardd a'r athronydd, ac erbyn hyn mae ganddo hefyd gysylltiadau â byd gwyddoniaeth."

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Er ei fod wedi cyfrannu'n fawr at ddatblygiad radio yn y dyddiau cynnar hynny, nid yw ymdrechion arloesol Moore ym maes cyfathrebu diwifr yn hysbys i lawer, hyd yn oed yn ei ardal ei hun. Fodd bynnag, arweiniodd yr ysbrydoliaeth a roddodd i nifer o ddarpar-selogion diwifr ei ardal leol at greu y Blackwood Transmitters Club yn 1927. Daeth hwn yn ddiweddarach yn Gymdeithas Radio Amatur y Coed Duon, sy'n dal i fodoli hyd heddiw.

Heddiw, mae melin Moore yng Ngelligroes yn segur ac yn ddistaw, ac mae bellach yn cael ei defnyddio fel storfa ar gyfer deunyddiau ar gyfer y gweithdy gwneuthurwyr canhwyllau gerllaw.

Mae grŵp o selogion radio amatur lleol yn creu "archif Artie Moore" ac yn parhau i chwilio am wybodaeth am y Cymro di-glod, ond hynod ac eithriadol hwn, er mwyn adrodd hanes llawn Moore, ei gysylltiad â thrychineb hanesyddol y Titanic ac am ei gampau mewn cyfathrebu diwifr cynnar. Maent hefyd wedi sefydlu gorsaf radio amatur ym Melin Gelligroes, sy'n darlledu o bryd i'w gilydd gyda'r arwydd galw MW0MNX (MNX oedd arwydd galwad gwreiddiol gorsaf Moore ei hun). Mae melin Moore, am y tro cyntaf ers bron i gan mlynedd, unwaith eto yn adleisio i sain hudolus Morse Code.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cysylltiadau Cymreig y Titanic". BBC Cymru Fyw. 2015-04-14. Cyrchwyd 2023-05-13.
  2. 2.0 2.1 "Welcome". Artie Moore Amateur Radio Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-13. Cyrchwyd 22 September 2019.
  3. "THE LONG VIEW: The Blackwood man who heard the Titanic's call for help". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-13.
  4. "Arddangosfa ar gysylltiad Cymro a'r Titanic yn 1912". BBC Cymru Fyw. 2012-04-05. Cyrchwyd 2023-05-13.
  • Artie Moore: The Forgotten Spark a gyhoeddwyd gan Leighton Smart 2005.
  • Braslun Dyddiol, 1911
  • Merthyr Express, 1949
  • South Wales Argus, 1949
  • Practical Wireless, 2004
  • Recordiad sain One Last Dance gan Philip Thomas