Neidio i'r cynnwys

Dreadnought

Oddi ar Wicipedia
Dreadnought
Enghraifft o:math o long Edit this on Wikidata
Mathllong ryfel Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganllong ryfel "pre-dreadnought" Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/025sq3k edit this on wikidata

Y dreadnought oedd y prif fath o long ryfel ar ddechrau'r 20g. Cafodd y cyntaf o'r math, HMS Dreadnought, gymaint o effaith pan gafodd ei lansio ym 1906 gan y Llynges Frenhinol nes bod llongau rhyfel tebyg a adeiladwyd ar ei hôl yn cael eu galw'n "dreadnoughts" hefyd, a daeth llongau rhyfel cynharach i gael eu hadnabod fel "llongau a adeiladwyd cyn y dreadnought" (pre-dreadnought). Roedd gan ei dyluniad ddwy nodwedd chwyldroadol: dyluniad arfogaeth "gwn mawr", gyda nifer digynsail o ynnau o galibr trwm, a gyriant tyrbin stêm. Wrth i dreadnoughts ddod yn symbol hanfodol o bŵer cenedlaethol, gwnaeth dyfodiad y llongau rhyfel newydd hyn aildanio'r ras arfau rhwng y Deyrnas Unedig a'r Almaen. Dechreuodd rasys dreadnought yn dechrau cael eu cynnal ledled y byd, gan gynnwys yn Ne America, gan bara hyd at ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Cafodd y rhan fwyaf o'r dreadnoughts gwreiddiol eu sgrapio ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o dan delerau Cytundeb Llynges Washington, ond parhaodd llawer o'r super-dreadnoughts mwy newydd i wasanaethu trwy gydol yr Ail Ryfel Byd.[1]

Roedd gan bob dreadnought yn y Llynges Frenhinol y nodweddion canlynol:

  • 12 gwn mawr ar fwrdd pob un
  • 800 o bobl yn gweithio ar fwrdd pob dreadnought
  • yn gallu cyrraedd cyflymder uchaf o 20 milltir yr awr
  • 35 centimetr o arfwisg trwm yn gorchuddio’r llong

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Dreadnought | Description & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-16.