Arthur Bottomley

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arthur Bottomley
Panglong Conference.jpg
Ganwyd 7 Chwefror 1907 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Tachwedd 1995 Edit this on Wikidata (88 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Representative of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/au OBE Edit this on Wikidata

Roedd Arthur George Bottomley, Barwn Bottomley, OBE, PC (7 Chwefror 1907 - 3 Tachwedd 1995) yn wleidydd Llafur Prydeinig, yn Aelod Seneddol ac yn weinidog y goron.[1].

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Bottomley yr hynaf o bum plentyn George Howard Bottomley, peiriannydd, ac Alice ei wraig. Mynychodd Ysgol Gynradd Gamuel Road, ac Ysgol Bechgyn Pretoria Avenue yn Walthamstow.[2]

Ym 1936 priododd Bessie Ellen Wiles, ni fu iddynt blant.

Cyn ymuno a'r Senedd, roedd Bottomley yn drefnydd undeb llafur i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus (NUPE, a ddaeth yn rhan o UNSAIN yn ddiweddarach). O 1929 hyd 1949 roedd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Walthamstow, ac ym 1945-1946 bu'n Faer Walthamstow. Fe'i penodwyd yn Swyddog yn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Anrhydedd Pen-blwydd 1941.

Gyrfa Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Bottomley i'r senedd am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol 1945 fel yr aelod dros etholaeth Chatham, Swydd Caint ac fe'i cynhaliodd y sedd (a enwyd yn ddiweddarach yn Rochester a Chatham) hyd iddo ei golli yn etholiad cyffredinol 1959 i'r Ceidwadwr Julian Critchley. Dychwelodd i'r senedd trwy ennill yng Ngorllewin Middlesbrough mewn isetholiad yn 1962 a daliodd y sedd, a'i olynydd Middlesbrough, hyd iddo ymddeol yn 1983. [3].

Gwasanaethodd Bottomley fel gweinidog iau yn llywodraethau Clement Attlee. Bu'n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Materion Dominiwn rhwng 1946 a 1947, ac yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Cysylltiadau â'r Gymanwlad ym 1947. Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Masnach Dramor yn y Bwrdd Masnach o 1947 hyd 1951). Yn llywodraethau Harold Wilson gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad o 1964 i 1966). Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd yn ceisio delio â chanlyniadau Datganiad Annibyniaeth Unochrog Rhodesia. Ym 1966 fe wnaed yn Weinidog dros Ddatblygu Tramor (1966-67).[1]

Fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn am oes, Y Barwn Bottomley, o Middlesbrough yn Swydd Cleveland ar 31 Ionawr 1984.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw'r Arglwydd Bottomley ar 3 Tachwedd 1995 yn 88 oed.[2]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Why Britain should Join the Common Market, 1959;
  • Two Roads to Colonialism, 1960;
  • The Use and Abuse of Trade Unions, 1961;
  • Commonwealth Comrades and Friends, 1986

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]