Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad yn weinidog yng Nghabinet Prydain a oedd yn gyfrifol am ddelio â chysylltiadau'r Deyrnas Unedig ag aelodau o Gymanwlad y Cenhedloedd (ei hen drefedigaethau). Adran y gweinidog oedd Swyddfa Cysylltiadau'r Gymanwlad.

Crëwyd y swydd ym 1947 allan o hen swydd yr Ysgrifennydd Gwladol Materion Dominiwn. Ym 1966, cyfunwyd y swydd ag un Ysgrifennydd Gwladol y Trefedigaethau i ffurfio Ysgrifennydd Gwladol Materion y Gymanwlad, a gyfunwyd yn ei dro â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor ym 1968 i greu'r swydd Ysgrifennydd Gwladol newydd sef Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad.

Ysgrifenyddion Gwladol dros Gysylltiadau â'r Gymanwlad[golygu | golygu cod y dudalen]

Delwedd Enw Cyfnod yn y Swydd Plaid Prif Weinidog
Christopher Addison, 1st Viscount Addison.jpg Christopher Addison
Yr Is iarll Addison
7 Gorffennaf
1947
7 Hydref
1947
Llafur Attlee
(I & II)
Philip Noel-Baker 1942.jpg Philip Noel-Baker
AS etholaeth Derby
7 Hydref
1947
28 Chwefror
1950
Llafur
Patrick Gordon Walker.jpg Patrick Gordon Walker
AS etholaeth Smethwick
28 Chwefror
1950
26 Hydref
1951
Llafur
Ismay cropped.jpg Cadfidogl Hastings Ismay
Yr Arglwydd Ismay
28 Hydref
1951
12 Mawrth
1952
Churchill
III
Robert Gascoyne-Cecil 1947.jpg Robert Gascoyne-Cecil
Ardalydd Salisbury
12 Mawrth
1952
24 Tachwedd
1952
Ceidwadol
Lord Swinton.jpg Philip Cunliffe-Lister
Is iarll Swinton
24 Tachwedd
1952
7 Ebrill
1955
Ceidwadol
Alec Douglas-Home (c1963).jpg Alec Douglas-Home
Iarll Home
7 Ebrill
1955
27 Gorffennaf
1960
Ceidwadol Eden
Macmillan
(I & II)
Duncan Sandys 1975.png Duncan Sandys
AS etholaeth Streatham
27 Gorffennaf
1960
16 Hydref
1964
Ceidwadol
Douglas-Home
Arthur Bottomley MP.jpg Arthur Bottomley
AS etholaeth Middlesbrough East
18 Hydref
1964
1 Awst
1966
Llafur Wilson
(I & II)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]