Argws brown y gogledd
| Enghraifft o: | tacson |
|---|---|
| Safle tacson | rhywogaeth |
| Rhiant dacson | Aricia |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06w043 |
| Argws brown y gogledd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Lycaenidae |
| Genws: | Aricia |
| Rhywogaeth: | A. artaxerxes |
| Enw deuenwol | |
| Aricia artaxerxes (Fabricius, 1775) | |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw argws brown y gogledd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy argysau brown y gogledd; yr enw Saesneg yw Northern Brown Argus, a'r enw gwyddonol yw Aricia artaxerxes.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop gan gynnwys yr Alban a gogledd Lloegr yng ngwledydd Prydain, er ei fod yn eitha prin ar yr ynysoedd hyn. Ystyriwyd y boblogaeth o'r argws brown yng Ngogledd Cymru yn is-rywogaeth o argws brown y gogledd hyd yn ddiweddar.[3]

25 - 31mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan ym Mehefin a Gorffennaf, yn ddibynol ar ei leoliad.
Prif fwyd y lindys ydy'r Helianthemum nummularium.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r argws brown yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Lewington, Richard (2003) Pocket Guide to the Butterflies of Great Britain and Ireland, British Wildlife Publishing, Hampshire.
