Esquel

Oddi ar Wicipedia
Esquel
Mathdinas, bwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth36,687 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Chwefror 1906 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAberystwyth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFutaleufú Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Uwch y môr593 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.9°S 71.32°W Edit this on Wikidata
Cod postU9200 Edit this on Wikidata
Map

Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Esquel. Saif yn agos i'r ffin a Tsile. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 30,000.

Sefydlwyd y dref ar y 25 Chwefror 1906, fel estyniad i'r gorllewin o'r sefydliad Cymreig Colonia 16 de Octubre o gwmpas Trevelín 25 km i'r de. Mae'r llethrau oddi amgylch yn cynnig sgio da, yn enwedig La Hoya. Rhyw ddeng milltir i'r gorllewin mae'r brif fynedfa i Barc Cenedlaethol Los Alerces. Mae dau Dy Tê Cymreig yn y dref, a chapel o'r enw Capel Seion.

Mae'r tren bach La Trochita yn atyniad mawr i ymwelwyr, ac fe'i disgrifir gan Paul Theroux yn ei lyfr The Old Patagonian Express.

Llyn ger Esquel

Meteoryn[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei ddarganfyddiad wrth gloddio ffynnon yn yr ardal yn 1951, mae hefyd meteoryn o'r enw Esquel. Mae darn ohono ar ddangos yng nghasgliad meteorynnau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.