Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ail
Llinell 7: Llinell 7:


==Cadw==
==Cadw==
Mae'r [[heneb]] hon wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 <ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>
Mae'r [[heneb]] hon wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 <ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir ail ogof gerllaw {{gbmapping|SS437859}}
sydd wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 06:42, 9 Ionawr 2011

Traeth Rhosili

Ogof gynhanesyddol wedi'i lleoli ger Rhosili ar y Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Paviland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.

Cadw

Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 [1] Ceir ail ogof gerllaw cyfeiriad grid SS437859 sydd wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.