Sgwrs:Ogof Pen-y-Fai

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

rwyn sylwi fod y BBC yn defnyddio Dynes Goch Pen-y-fai' am y sgerbwd a ddarganfyddwyd ar y Gŵyr. Ddylen ni newid Ogof Paviland i Ogof Penyfai? Ogof Penyfai

Dyfrig 16:34, 7 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Diddorol. Roeddwn i'n synnu nad oedd enw Cymraeg ar y lle. Ond wedi dweud hynny mae'r cyfeiriadau sydd gennyf mewn llyfrau hanes yn y Gymraeg - Hanes Cymru John Davies, er enghraifft - i gyd yn defnyddio'r ffurf '(Ogof) Paviland'. Tybed a oes cyfeiriad arall anniybynnol ar y BBC? Yn sicr mae'n werth nodi yn yr erthygl ac ystyried newid yr enw hefyd, ond hoffwn gael gadarnhad o rywle arall gan fod 'Ogof Paviland' yn enw mor gyfarwydd. Anatiomaros 17:00, 7 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]