Styria Slofenia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B cael gwared ar Saesneg, gwallau teipio
Llinell 82: Llinell 82:
}}
}}
{| class="infobox bordered" style="width: auto;"
{| class="infobox bordered" style="width: auto;"
|+Rhanbarthau traddodiadol Slofenia
|+ Traditional regions of Slovenia
|-
|-
| colspan="1" | [[File:Borders of the Historical Habsburgian Lands in the Republic of Slovenia.png|center|300px]]
| colspan="1" | [[File:Borders of the Historical Habsburgian Lands in the Republic of Slovenia.png|center|300px]]
Llinell 111: Llinell 111:


===Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf===
===Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf===
Yn 1918, wedi chwalu Ymerodraeth Awstria-Hungari yn dilyn y Rhyfel Mawr, rhanwyd y Dugaeth rhwng y wladwriaeth Awstria Almaeneg newydd ([[Awstria]] gyfoes) a'r wladwriaeth Slofeniaid, Croatiaid a Serbiaid (SHS) a ddaeth, maes o law, yn [[Iwgoslafia]]. Yn gynnar ym mis Tachwedd 1918, meddiannodd [[Rudolf Maister]], cadfridog Slofeneg gynt gyda byddin Awstria-Hwngari, ond bellach yn ymladdwr dros annibyniaeth Slofenia neu Slofenia o fewn Iwgoslafia, Styria Isaf, gan gynnwys tref bwysig [[Maribor]] gyda 4,000 o wirfoddolwyr lleol. Roedd Styria Isaf bellach dan reolaeth y Slofeniaid. Wedi brwydr fer gyda'r unedau parafiliwrol Awstria-Almaenaidd lleol, cynabwyd y ffin newydd gan gynulliad dros-dro Styria yn ninas [[Graz]] (sydd yn Awstria). Erbyn mis Rhagfyr 1918, roedd y cyfan o Styria Isaf o dan reolaeth ''de facto'' Teyrnas newydd Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (newidiwyd trefn y cenhedloedd Slaf a falfyrir i SHS, Hrvatska yw'r enw [[Croateg]] a [[Croatia]]. Newidwyd yr enw eto drachefn i [[Iwgoslafia]] ("Slafiaid y De"). Gelwyd protest yn erbyn y drefn newydd o reolaeth Slofeneg Iwgoslafaidd gan boblogaeth Almaeneg Maribor a arweiniodd ar Ddydd Sul Waedlyd pan laddwyd 13 a niweidiwyd 60 o Almaenwyr.{{cn|date=July 2017}}
Yn 1918, wedi chwalu Ymerodraeth Awstria-Hungari yn dilyn y Rhyfel Mawr, rhanwyd y Dugaeth rhwng y wladwriaeth Awstria Almaeneg newydd ([[Awstria]] gyfoes) a'r wladwriaeth Slofeniaid, Croatiaid a Serbiaid (SHS) a ddaeth, maes o law, yn [[Iwgoslafia]]. Yn gynnar ym mis Tachwedd 1918, meddiannodd [[Rudolf Maister]], cadfridog Slofeneg gynt gyda byddin Awstria-Hwngari, ond bellach yn ymladdwr dros annibyniaeth Slofenia neu Slofenia o fewn Iwgoslafia, Styria Isaf, gan gynnwys tref bwysig [[Maribor]] gyda 4,000 o wirfoddolwyr lleol. Roedd Styria Isaf bellach dan reolaeth y Slofeniaid. Wedi brwydr fer gyda'r unedau parafiliwrol Awstria-Almaenaidd lleol, cynabwyd y ffin newydd gan gynulliad dros-dro Styria yn ninas [[Graz]] (sydd yn Awstria). Erbyn mis Rhagfyr 1918, roedd y cyfan o Styria Isaf o dan reolaeth ''de facto'' Teyrnas newydd Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (newidiwyd trefn y cenhedloedd Slaf a talfyrir i SHS, Hrvatska yw'r enw [[Croateg]] ar gyfer [[Croatia]]). Newidwyd yr enw eto drachefn i [[Iwgoslafia]] ("Slafiaid y De"). Gwelwyd protest yn erbyn y drefn newydd o reolaeth Slofeneg Iwgoslafaidd gan boblogaeth Almaeneg Maribor a arweiniodd ar Ddydd Sul Waedlyd pan laddwyd 13 a niweidiwyd 60 o Almaenwyr.{{cn|date=July 2017}}


===Ail Ryfel Byd===
===Ail Ryfel Byd===

Fersiwn yn ôl 18:58, 3 Tachwedd 2019

Styria (Slofenia)
Spodnja Štajerska / Untersteiermark
Rhanbarth Draddodiadol
Tirlun nodweddiadol yn Styria Isaf, Sevnica.
Tirlun nodweddiadol yn Styria Isaf, Sevnica.
Territory of the former Styrian duchy, superimposed on the modern borders of Austria and Slovenia
Territory of the former Styrian duchy, superimposed on the modern borders of Austria and Slovenia
CountrySlofenia Slofenia
Uchder300 m (1,000 tr)
Rhanbarthau traddodiadol Slofenia
1 Primorska (Arfordir); Carniola: 2a Carnola Uchaf
2b Carniola Fewnol, 2c Carniola Isaf
3 Carinthia; 4 Styria; 5 Prekmurje
Map rhanbarthau ystadegol newydd Slofenia

Mae Styria Slofenia (Slofeneg: Styria - Štajerska; Styria Slofenia (Slovenska Štajerska); Styria Isaf Spodnja Štajerska; Almaeneg: Untersteiermark), yn rhanbarth traddodiadol yng ngogledd-ddwyrain Slofenia, sy'n cynnwys traean deheuol hen Ddugiaeth Styria. Mae poblogaeth Styria yn ei ffiniau hanesyddol yn cyfateb i oddeutu 705,000 o drigolion, neu 34.5% o boblogaeth Slofenia. Y ddinas fwyaf yw Maribor.

Mae'r ddwy ran o dair gogleddol arall o'r hen ddugiaeth yn perthyn i Awstria ar hyn o bryd ac fe'u gelwir yn Styria Uchaf neu Obersteiermark. Rhannwyd Dugiaeth Styria ym 1918 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael Teyrnas Iwgoslafia â Styria Isaf. Enillodd Slofenia annibyniaeth o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Iwgoslafia ym 1991.

Nid oes gan Styria Isaf statws swyddogol fel uned weinyddol Slofenia, er bod cysylltiad â'r dalaith anffurfiol (yn Slofenia: Pokrajina) yn gyffredin iawn. Mae'r rhanbarth yn enwog am ei win gwyn.

Prifddinas Styria Isaf yw Maribor (yn Almaeneg: Marburg an der Drau). Dinasoedd pwysig eraill yw Celje (Cilli) a Ptuj (Pettau), a Slovenska Bistrica (Windisch Feistritz).

Noder, ceir hefyd Styria dros y ffin yn Awstria.

Daearyddiaeth

Mae'r hen dalaith yn gorwedd rhwng afonnydd y Mur isaf a'r Sava Uchaf. Mae ganddo arwynebedd o 6,050 km².

Yn 2005 aildrefnwyd gweinyddiaeth fewnol Slofenia fewn i 12 rhanbarth ystadegol. Mae'r rhanfwyaf o Styria hanesyddol bellach wedi ei rannu rhwng rhanbarthau Podravje (Podravska regija), a Savinjsko (Savinjska regija).

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol roedd tiroedd Styria Isaf yn cael eu rheoli gan sawl lywodraethwr ymerodraethol oedd yn deyrnasoedd reichsfrei fel Iarlloedd Celje. Ni lyncwyd y tiroedd mawrion yma i deulu'r Habsburgiaid hyd nes yr 15g.

Yn ôl cyfrifiad olaf Ymerodraeth Awstria-Hwngari a gynhaliwyd yn 1910, roedd gan Styria Isaf tua 498,000 o drigolion, ac o'r rheini roedd oddeutu 82% yn Slofeniaid a tua 18% yn siaradwyr â'r Almaeneg yn briodiaith.[1]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf

Yn 1918, wedi chwalu Ymerodraeth Awstria-Hungari yn dilyn y Rhyfel Mawr, rhanwyd y Dugaeth rhwng y wladwriaeth Awstria Almaeneg newydd (Awstria gyfoes) a'r wladwriaeth Slofeniaid, Croatiaid a Serbiaid (SHS) a ddaeth, maes o law, yn Iwgoslafia. Yn gynnar ym mis Tachwedd 1918, meddiannodd Rudolf Maister, cadfridog Slofeneg gynt gyda byddin Awstria-Hwngari, ond bellach yn ymladdwr dros annibyniaeth Slofenia neu Slofenia o fewn Iwgoslafia, Styria Isaf, gan gynnwys tref bwysig Maribor gyda 4,000 o wirfoddolwyr lleol. Roedd Styria Isaf bellach dan reolaeth y Slofeniaid. Wedi brwydr fer gyda'r unedau parafiliwrol Awstria-Almaenaidd lleol, cynabwyd y ffin newydd gan gynulliad dros-dro Styria yn ninas Graz (sydd yn Awstria). Erbyn mis Rhagfyr 1918, roedd y cyfan o Styria Isaf o dan reolaeth de facto Teyrnas newydd Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (newidiwyd trefn y cenhedloedd Slaf a talfyrir i SHS, Hrvatska yw'r enw Croateg ar gyfer Croatia). Newidwyd yr enw eto drachefn i Iwgoslafia ("Slafiaid y De"). Gwelwyd protest yn erbyn y drefn newydd o reolaeth Slofeneg Iwgoslafaidd gan boblogaeth Almaeneg Maribor a arweiniodd ar Ddydd Sul Waedlyd pan laddwyd 13 a niweidiwyd 60 o Almaenwyr.[angen ffynhonnell]

Ail Ryfel Byd

Ym mis Ebrill 1941, goresgynnodd yr Almaen Natsïaidd Iwgoslafia ac atodwyd Styria Slofenaidd i'r Drydedd Reich. Cyflwynwyd polisi Almaeneg treisgar. Gwaharddwyd defnydd cyhoeddus o iaith Slofeneg, a diddymwyd pob cymdeithas Slofenaidd. Cafodd aelodau o bob grŵp proffesiynol a deallusol, gan gynnwys llawer o glerigwyr, eu diarddel. Rhwng Ebrill 1941 a Mai 1942, cafodd tua 80,000 o Slofeniaid (bron i 15% o'r boblogaeth gyfan) eu diarddel o Styria Isaf, neu eu hailsefydlu i rannau eraill o'r Reich. Fel adwaith, datblygodd symudiad gwrthiant. Gwelodd llawer o ardaloedd yn Styria Isaf ymladd ffyrnig rhwng milwyr yr Almaen ac unedau pleidiol Slofenaidd.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd awdurdod Iwgoslafia dros y rhanbarth a daeth Slofenia Styria yn rhan annatod o Weriniaeth Sosialaidd Slofenia. Yn ôl penderfyniadau blaenorol a wnaed gan Gyngor Gwrth-Ffasgaidd Rhyddhad Pobl Iwgoslafia, gwnaed diarddel o'r boblogaeth ethnig Almaenig sy'n weddill, waeth beth fo'u cysylltiadau â'r drefn Natsïaidd.

Rhwng y 1950au a'r 1970au, cafodd llawer o ardaloedd y rhanbarth eu diwydiannu'n gyflym. Daeth trefi fel Maribor, Celje a Velenje ymhlith canolfannau diwydiannol pwysicaf Slofenia ac Iwgoslafia.

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. Gregor Jenuš, Ko je Maribor postal slovenski (Maribor: znanstvenoraziskovalni inštitut dr. Franca Kovačiča, 2011), 81