Nicola Sturgeon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
| delwedd = Nicola Sturgeon Official HQ.jpg |
| delwedd = Nicola Sturgeon Official HQ.jpg |
||
| dyddiad_geni = {{dyddiad geni|1970|7|19|df=yes}} |
| dyddiad_geni = {{dyddiad geni|1970|7|19|df=yes}} |
||
| lleoliad_geni = [[Irvine]], [[Gogledd Swydd Ayr]] |
| lleoliad_geni = [[Irvine, Gogledd Swydd Ayr|Irvine]], [[Gogledd Swydd Ayr]] |
||
| swydd = Prif Weinidog yr Alban |
| swydd = Prif Weinidog yr Alban |
||
| dechrau_tymor = [[20 Tachwedd]] [[2014]] |
| dechrau_tymor = [[20 Tachwedd]] [[2014]] |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
}} |
}} |
||
'''Nicola Sturgeon''' (ganwyd [[19 Gorffennaf]] [[1970]] yn [[Irvine]], [[Gogledd Swydd Ayr]]) yw [[Llywodraeth yr Alban|Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban]] a bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng [[17 Mai]] [[2007]] a [[19 Tachwedd]] [[2014]].<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.com/news/uk-scotland-scotland-politics-30011421|title=BBC News - The transition from Alex Salmond to Nicola Sturgeon|work=BBC News|accessdate=19 Tachwedd 2014}}</ref> Bu'n aelod o [[Plaid Genedlaethol yr Alban|Blaid Genedlaethol yr Alban]] (neu'r ''SNP'') ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn ''Ddepute'' (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r [[Aelod Senedd yr Alban]] (''MSP'') dros Glasgow (Deheuol).<ref name="snp.org">https://www.snp.org/nicola_sturgeon_fm</ref> |
'''Nicola Sturgeon''' (ganwyd [[19 Gorffennaf]] [[1970]] yn [[Irvine, Gogledd Swydd Ayr|Irvine]], [[Gogledd Swydd Ayr]]) yw [[Llywodraeth yr Alban|Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban]] a bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng [[17 Mai]] [[2007]] a [[19 Tachwedd]] [[2014]].<ref>{{cite web|url=http://www.bbc.com/news/uk-scotland-scotland-politics-30011421|title=BBC News - The transition from Alex Salmond to Nicola Sturgeon|work=BBC News|accessdate=19 Tachwedd 2014}}</ref> Bu'n aelod o [[Plaid Genedlaethol yr Alban|Blaid Genedlaethol yr Alban]] (neu'r ''SNP'') ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn ''Ddepute'' (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r [[Aelod Senedd yr Alban]] (''MSP'') dros Glasgow (Deheuol).<ref name="snp.org">https://www.snp.org/nicola_sturgeon_fm</ref> |
||
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd [[Alex Salmond]] ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu ''Depute''). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon. |
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd [[Alex Salmond]] ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu ''Depute''). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon. |
Fersiwn yn ôl 21:37, 3 Hydref 2019
Nicola Sturgeon | |
| |
Prif Weinidog yr Alban
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 20 Tachwedd 2014 | |
Dirprwy Brif Weinidog yr Alban
| |
Cyfnod yn y swydd 17 Mai 2007 – 19 Tachwedd 2014 | |
Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban
| |
Cyfnod yn y swydd 5 Medi 2012 – 19 Tachwedd 2014 | |
Arweinydd yr SNP
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 14 Tachwedd 2014 | |
Geni | 19 Gorffennaf 1970 Irvine, Gogledd Swydd Ayr |
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Peter Murrell |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Nicola Sturgeon (ganwyd 19 Gorffennaf 1970 yn Irvine, Gogledd Swydd Ayr) yw Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban a bu'n Ddirprwy Brif Weinidog rhwng 17 Mai 2007 a 19 Tachwedd 2014.[1] Bu'n aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP) ers oedd yn 16 oed. Mae hefyd yn Arweinydd y blaid honno (a adnabyddir hefyd fel yr 'SNP') ac yn Ddepute (neu Ddirprwy) 2004-2014. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw'r Aelod Senedd yr Alban (MSP) dros Glasgow (Deheuol).[2]
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf, gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu Depute). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.
Bywyd cynnar
Cafodd ei haddysg uwchradd yn Greenwood Academy, Dreghorn ac aeth yn ei blaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Glasgow ble y cafodd LLB gydag Anrhydedd a Diploma mewn Cyfraith Ymarferol.[3] Yn Glasgow roedd yn flaenllaw iawn yng ngwaith yr SNP. Yna gweithiodd fel cyfreithwraig yn Stirling ac yna Canolfan y Gyfraith yn Drumchapel, Glasgow cyn iddi gael ei hethol yn MSP (Aelod o Lywodraeth yr Alban).
Annibyniaeth yr Alban
Yn 2012, etholodd Cabined Llywodraeth yr Alban Sturgeon i ofalu am Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014,[4] ac felly'n gyfrifol am ymgyrch yr SNP dros annibyniaeth.[5] Cred Sturgeon y gall annibyniaeth gryfhau'r Alban gan ei wneud yn fwy cystadleuol,[6] gan newid blaenoriaethau gwariant y wlad ac ateb y broblem o dlodi dybryd.[7]
Mewn cyfweliad gyda'r Daily Record, dywedodd Sturgeon y gobeithiai rywdro fod y ferch gyntaf yn swydd y Prif Weinidog.[5] Ar 19 Tachwedd 2014 gwireddwyd hynny yn dilyn ymddiswydiad Alex Salmond.[8]
Gwobrau
Enillodd Sturgeon y teitl 'Gwleidydd Albanaidd y Flwyddyn' yn 2008. Yn 2004 a 2008 enillodd Wobr Donald Dewar: Dadleuwr y Flwyddyn, cystadleuaeth a drefnir gan The Herald.
Yn Chwefror 2013 enwyd hi fel 20fed ferch mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig gan Women's Hour ar Radio 4.[9]
Gweler hefyd
- Margo MacDonald (19 Ebrill 1943 – 4 Ebrill 2014)
- Alex Salmond
- Margo MacDonald
- Joe FitzPatrick
- Margaret Ewing
- Tricia Marwick
Cyfeiriadau
- ↑ "BBC News - The transition from Alex Salmond to Nicola Sturgeon". BBC News. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2014.
- ↑ https://www.snp.org/nicola_sturgeon_fm
- ↑ "Candidates and Constituency Assessments". Alba.org.uk. Cyrchwyd 2011-01-17.
- ↑ "Scottish cabinet reshuffle: Nicola Sturgeon given new independence role". BBC News. 5 Medi 2012. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014.
- ↑ 5.0 5.1 "Nicola Sturgeon admits her sights are set on landing First Minister's job but insists winning independence referendum is top priority". Daily Record. 19 Mawrth 2014. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Carrell, Severin (25 Mai 2012). "Scottish independence would allow economy to grow, says Sturgeon". The Guardian. London.
- ↑ "Nicola Sturgeon: There are 100,000 Scots in poverty and Westminster want to spend billions on Trident". Daily Record. 1 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ LibBrooks. "Alex Salmond's resignation could give Nicola Sturgeon her day of destiny". the Guardian. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2014.
- ↑ BBC Radio 4, Rhestr Woman's Hour Power