Sioe gerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: pl:Teatr muzyczny |
B robot yn ychwanegu: tr:Müzikal yn newid: pl:Musical |
||
Llinell 48: | Llinell 48: | ||
[[nl:Musical]] |
[[nl:Musical]] |
||
[[no:Musikal]] |
[[no:Musikal]] |
||
[[pl: |
[[pl:Musical]] |
||
[[pt:Teatro musical]] |
[[pt:Teatro musical]] |
||
[[ro:Teatru muzical]] |
[[ro:Teatru muzical]] |
||
Llinell 57: | Llinell 57: | ||
[[sv:Musikal]] |
[[sv:Musikal]] |
||
[[th:ละครเพลง]] |
[[th:ละครเพลง]] |
||
[[tr:Müzikal]] |
|||
[[uk:Мюзикл]] |
[[uk:Мюзикл]] |
||
[[zh:音樂劇]] |
[[zh:音樂劇]] |
Fersiwn yn ôl 06:29, 21 Hydref 2010
Ffurf o adloniant yw sioe gerdd sy'n cyfuno cerddoriaeth, dawns ac weithiau'r iaith lafar. Perthyna'n agos i opera, ond yn gyffredinol bydd sioe gerdd yn defnyddio cerddoriaeth boblogaidd, tra na cheir defnydd o sgwrs mewn opera. Ceir eithriadau er hynny.
Datblygodd sioeau cerdd cynnar allan o'r operetta. Bu Jacques Offenbach yn Ffrainc, Joseph Parry yng Nghymru a Gilbert a Sullivan yn Lloegr yn llwyddiannus iawn yn creu Opperettas, gyda cherddoriaeth ysgafnach na opera, a chyda sgwrsio. Yn sgil poplogrwydd yr operettas cynnar, datblygodd y sioeau cerdd cynnar, gan roi pwyslais ar actorion enwog oedd yn perfformio ac ar eitemau dawns mawr. Daeth 'Broadway' yn Efrog Newydd, a'r 'West End' yn Llundain yn ganolfannau pwysig i'r diwydiant.
Mae Cymru hefyd wedi cyfrannu i fyd sioeau cerdd. Ymhlith yr actorion o Gymru sydd wedi perfformio yn y 'West End' mae Sian Cothi a Michael Ball. Ceir traddodiad diweddar o gyfansoddi sioe gerdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymysg y sioeau yma ceir 'Pum Diwrnod o Ryddid' a gynhyrchwyd gan Gwmni Theatr Maldwyn.
Rhestr Sioeau Cerdd Cymraeg
- 1974 Nia Ben Aur
- 1975 Melltith ar y Nyth - geiriau gan Hywel Gwynfryn; cerddoriaeth gan Endaf Emlyn
- 1985 Ceidwad y Gannwyll - geiriau gan Robin Llwyd ab Owain; cerddoriaeth gan Robat Arwyn a Sioned Williams
- 1997 Er Mwyn Yfory - geiriau gan Penri Jones; cerddoriaeth gan Robat Arwyn
- 2001 Adlais o'r Sêr - cerddoriaeth gan Robat Arwyn
- 2009 Clymau gan Eilir Owen Griffiths a Ceri Elen
Rhestr Sioeau Cerdd Saesneg
- 1927 Show Boat - geiriau gan Oscar Hammerstein II, cerddoriaeth gan Jerome Kern
- 1943 Oklahoma! - geiriau gan Oscar Hammerstein II, cerddoriaeth gan Richard Rodgers
- 1980 Les Misérables - geiriau gan Alain Boublil; cerddoriaeth gan Claude-Michel Schönberg. Stori wreiddiol gan Victor Hugo
- 1975 A Chorus Line - geiriau gan Edward Kleban; cerddoriaeth gan Marvin Hamlisch. Llyfr gwreiddiol gan James Kirkwood, Jr. a Nicholas Dante
- 2003 Avenue Q - geiriau a'r cerddoriaeth gan Robert Lopez a Jeff Marx.
- 1993 Beauty and the Beast - geiriau gan Tim Rice a Howard Ashman; cerddoriaeth gan Alan Menken. Yn seiliedig ar ffilm Disney Beauty and the Beast.