A Chorus Line (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
A Chorus Line
200
Cerdyn ffenestr y sioe wreiddiol ar Broadway
Cerddoriaeth Marvin Hamlisch
Geiriau Edward Kleban
Llyfr James Kirkwood
Nicholas Dante
Cynhyrchiad 1975 Oddi-ar Broadway
1975 Broadway
1976 West End
1977 Sydney
2006 San Francisco
2006 Adfywiad Broadway
2006 San Juan
2007 Belgrade
2008 Taith yr Unol Daleithiau
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Sgôr Gorau
Gwobr Pulitzer 1976 am Ddrama
Gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Orau

Sioe gerdd 1975 ydy A Chorus Line, am un deg saith o ddawnswyr Broadway mewn clyweliad am ran yn y llinell gorws. Ysgrifennwyd y llyfr gan James Kirkwood, Jr. a Nicholas Dante, geiriau'r caneuon gan Edward Kleban a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Marvin Hamlisch.

Am fod 19 o brif gymeriadau, caiff y sioe ei lleoli ar lwyfan gwag yn un o theatrau Broadway, yn ystod clywediad am sioe gerdd. Dengys y sioe gipolwg o bersonoliaethau'r perfformwyr a'u coreograffwr, wrth iddynt ddisgrifio'r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar eu bywydau ac ar eu penderfyniad i fod yn ddawnswyr.

Roedd y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol, a gyfarwyddwyd a choreograffwyd gan Michael Bennett yn llwyddiant ysgubol nas gwelwyd ei fath o'r blaen, a derbyniodd ddeuddeg enwebiad am Wobr Tony, gan ennill naw ohonynt yn ogystal â'r Wobr Pulitzer am Ddrama ym 1976. Rhedodd y sioe am 6,137 o berfformiadau. Mae'r sioe wedi cael ei chynhyrchu'n llwyddiannus ledled y byd droen, a dychwelodd i Broadway yn 2006.

Caneuon[golygu | golygu cod]

  • "I Hope I Get It" – Zach, Paul a Company
  • "I Can Do That" – Mike
  • "And..." – Bobby, Richie, Val a Judy
  • "At the Ballet" – Sheila, Bebe a Maggie
  • "Sing!" – Kristine, Al a Chwmni
  • "Montage Rhan 1: Hello Twelve, Hello Thirteen, Hello Love" – Mark, Connie a Chwmni
  • "Montage Rhan 2: Nothing" – Diana
  • "Montage Rhan 3: Mother" – Don, Judy, Maggie a Cwmni
  • "Montage Rhan 4: Gimme The Ball" – Greg, Richie a Chwmni
  • "Dance: Ten; Looks: Three" – Val
  • "The Music and the Mirror" – Cassie
  • "One" – Cwmni
  • "The Tap Combination" – Company
  • "What I Did for Love" – Diana a Chwmni
  • "One" (Reprise) – Company

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]