Iestyn Tyne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 18: Llinell 18:
==Barddoni==
==Barddoni==
Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.<ref>https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/student-iestyn-tyne-takes-years-11425285</ref> Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, ''Addunedau'', yn 2017;<ref>https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/258696-fideo-bardd-ifanc-yn-cyhoeddi-ar-ei-liwt-ei-hun</ref> a chyhoeddodd ei ail gyfrol, ''Ar adain'', drwy [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]] yn 2018.<ref>https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-event/lansiad-ar-adain-iestyn-tyne/</ref>

Yn 2019, enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, gan ddod y cyntaf erioed i ennill coron a chadair yr Urdd.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/546969-iestyn-tyne-cyntaf-ennill-dwbwl-urdd|teitl=Iestyn Tyne yw’r cyntaf i ‘ennill y dwbwl’ yn yr Urdd|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=30 Mai 2019}}</ref>

Y mae hefyd yn gyfrifol am y blog [http://www.cadeiriau.cymru/ Casglu'r Cadeiriau] sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.
Y mae hefyd yn gyfrifol am y blog [http://www.cadeiriau.cymru/ Casglu'r Cadeiriau] sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.

Fersiwn yn ôl 19:40, 30 Mai 2019

Iestyn Tyne
Ganwyd3 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bardd, llenor, a cherddor yw Iestyn Tyne (ganwyd 3 Gorffennaf 1997). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol Y Stamp, ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin Patrobas a Pendevig. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.

Bywyd cynnar ac addysg

Mae Iestyn yn fab ffarm o Foduan ym Mhen Llŷn. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf, Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Nholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferfol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP (Dwyn y Dail, 2015) ac albwm (Lle awn ni nesa'?, 2017). Mae wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Basg. Mae'n perfformio'n rheolaidd fel rhan o fand Gwilym Bowen Rhys.

Wedi hynny aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.[1]

Gyrfa

Mae'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy yn rhan amser.

Barddoni

Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd a chadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.[2] Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Addunedau, yn 2017;[3] a chyhoeddodd ei ail gyfrol, Ar adain, drwy Gyhoeddiadau'r Stamp yn 2018.[4]

Yn 2019, enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, gan ddod y cyntaf erioed i ennill coron a chadair yr Urdd.[5]

Y mae hefyd yn gyfrifol am y blog Casglu'r Cadeiriau sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.

Llyfryddiaeth

Dolenni allanol

Cyfeiriadau