Mynachlog Santes Catrin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cat |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B wedi symud Mynachlog Sant Catrin i Mynachlog Santes Catrin |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 23:13, 23 Mehefin 2010
Mynachlog ar orynys Sinai yn yr Aifft yw Mynachlog Sant Catrin (Groeg: Μονὴ τῆς Ἁγίας Αἰκατερίνης). Saif ger llethrau isaf Mynydd Sinai. Dymodwyd y fynachlog, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Groeg, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ystyrir mai Mynachlog Sant Catrin yw'r fynachlog Gristnogol hynaf yn y byd.
Ceir cofnod am fynachod yma gan bererin o'r enw Egeria tua 381-384. Adeiladwyd y fynachlog gan yr ymerawdwr Justinian I (teyrnasodd 527-565), o amgylch Capel y Berth yn Llosgi. Roedd y capel hwn wedi ei adeiladu gan Helena,mam yr ymerawdwr Cystennin I, ar y safle lle dywedir i Moses weld y berth yn llosgi. Cafodd y fynachlog ei henw oddi wrth Sant Catrin o Alexandria. Wedi iddi gaeth ei merthyru, roedd traddodiad i angylion gario ei chorff i'r safle yma.
Ceir casgliad ail-fwyaf y byd o lawysgrifau cynnar yma, a nifer fawr o weithiau celf, yn cynnwys casgliad gorau'r byd o eiconau cynnar.