Mynachlog Santes Catrin
Math | mynachlog |
---|---|
Enwyd ar ôl | Catrin o Alecsandria |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Saint Catherine Area |
Lleoliad | Saint Catherine |
Sir | South Sinai Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Uwch y môr | 1,570 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 28.555831°N 33.975561°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Fysantaidd |
Sefydlwydwyd gan | Iwstinian I |
Cysegrwyd i | Catrin o Alecsandria |
Crefydd/Enwad | Eglwysi Uniongred |
Esgobaeth | Archdiocese of Sinai, Pharan, and Raitho |
Mynachlog ar orynys Sinai yn yr Aifft yw Mynachlog Santes Catrin (Groeg: Μονὴ τῆς Ἁγίας Αἰκατερίνης). Saif ger llethrau isaf Mynydd Sinai. Dymodwyd y fynachlog, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Groeg, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ystyrir mai Mynachlog Santes Catrin yw'r fynachlog Gristnogol hynaf yn y byd.
Ceir cofnod am fynachod yma gan bererin o'r enw Egeria tua 381-384. Adeiladwyd y fynachlog gan yr ymerawdwr Justinian I (teyrnasodd 527-565), o amgylch Capel y Berth yn Llosgi. Roedd y capel hwn wedi ei adeiladu gan Helena, mam yr ymerawdwr Cystennin I, ar y safle lle dywedir i Moses weld y berth yn llosgi. Cafodd y fynachlog ei henw oddi wrth Santes Catrin o Alecsandria. Wedi iddi gaeth ei merthyru, roedd traddodiad i angylion gario ei chorff i'r safle yma.
Ceir casgliad ail-fwyaf y byd o lawysgrifau cynnar yma, a nifer fawr o weithiau celf, yn cynnwys casgliad gorau'r byd o eiconau cynnar.