Shtisel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[File:Diane Keaton, Ayelet Zurer and Kevin Kline (2012).jpg|thumb|Ayelet Zurer (canol) sy'n chwarae Elisheva y ddynes weddw yn Shtisel a chariad Akiva am gyfnod. Naill ochr: [[Diane Keaton]] a Kevin Kline (2012)]] |
[[File:Diane Keaton, Ayelet Zurer and Kevin Kline (2012).jpg|thumb|Ayelet Zurer (canol) sy'n chwarae Elisheva y ddynes weddw yn Shtisel a chariad Akiva am gyfnod. Naill ochr: [[Diane Keaton]] a Kevin Kline (2012)]] |
||
[[File:Hadas Yaron.jpg|thumb|Hadas Yaron sy'n chwarae Libbi Shtisel]] |
[[File:Hadas Yaron.jpg|thumb|Hadas Yaron sy'n chwarae Libbi Shtisel]] |
||
Cyfres ddrama deledu ffuglennol o [[Israel]] yw '''Shtisel''' ([[Hebraeg]]: שטיסל) am deulu Iddewig [[Charedi]] (Haredi) o'r cyfenw hwnnw sy'n byw ym [[maestref]] Geula, [[Jeriwsalem]].<ref name="Ghert-Zand">{{cite news|last1=Ghert-Zand|first1=Renee|title=Why I Can't Stop Watching 'Shtisel'|url=http://forward.com/culture/334808/why-i-cant-stop-watching-shtisel/|accessdate=5 April 2016|work=The Forward|date=4 March 2016}}</ref> Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Ori Elon a Yehonatan Indursky, a darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 29 Mehefin 2013 ar sianel deledu Israeli Hebraeg, ''yes Oh'' (rhan o Yes TV). Yn dilyn ei llwyddiant yn Israel mae wedi ei ffrydio ar-lein yn fyd-eang ar sianel [[Netflix]].<ref>{{cite news|date=18 December 2018|url=https://www.rapidtvnews.com/2018121854520/netflix-picks-up-shtisel-from-dori.html|title=Netflix picks up Shtisel from Dori|newspaper=Rapid TV News}}</ref> |
Cyfres ddrama deledu ffuglennol o [[Israel]] yw '''Shtisel''' ([[Hebraeg]]: שטיסל) am deulu Iddewig [[Iddewiaeth Hasidig|Charedi]] (Haredi) o'r cyfenw hwnnw sy'n byw ym [[maestref]] Geula, [[Jeriwsalem]].<ref name="Ghert-Zand">{{cite news|last1=Ghert-Zand|first1=Renee|title=Why I Can't Stop Watching 'Shtisel'|url=http://forward.com/culture/334808/why-i-cant-stop-watching-shtisel/|accessdate=5 April 2016|work=The Forward|date=4 March 2016}}</ref> Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Ori Elon a Yehonatan Indursky, a darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 29 Mehefin 2013 ar sianel deledu Israeli Hebraeg, ''yes Oh'' (rhan o Yes TV). Yn dilyn ei llwyddiant yn Israel mae wedi ei ffrydio ar-lein yn fyd-eang ar sianel [[Netflix]].<ref>{{cite news|date=18 December 2018|url=https://www.rapidtvnews.com/2018121854520/netflix-picks-up-shtisel-from-dori.html|title=Netflix picks up Shtisel from Dori|newspaper=Rapid TV News}}</ref> |
||
==Stori== |
==Stori== |
||
Llinell 66: | Llinell 66: | ||
[[Categori:Cyflwyniadau rhaglenni teledu 2013]] |
[[Categori:Cyflwyniadau rhaglenni teledu 2013]] |
||
[[Categori:Diweddiadau rhaglenni teledu 2016]] |
[[Categori:Diweddiadau rhaglenni teledu 2016]] |
||
[[Categori:Iddewiaeth]] |
|||
[[Categori:Iddewiaeth Uniongred]] |
Fersiwn yn ôl 16:53, 12 Ebrill 2019
Shtisel | |
---|---|
Genre | drama |
Gwlad/gwladwriaeth | Israel |
Iaith/ieithoedd | Hebraeg Iddeweg |
Nifer cyfresi | 2 |
Nifer penodau | 24 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd | Yonatan Aroch a Dikla Barkai |
Amser rhedeg | 45 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | oh Yes (Yes TV), Netflix |
Darllediad gwreiddiol | 2013 – 2016 |
Cyfres ddrama deledu ffuglennol o Israel yw Shtisel (Hebraeg: שטיסל) am deulu Iddewig Charedi (Haredi) o'r cyfenw hwnnw sy'n byw ym maestref Geula, Jeriwsalem.[1] Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Ori Elon a Yehonatan Indursky, a darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 29 Mehefin 2013 ar sianel deledu Israeli Hebraeg, yes Oh (rhan o Yes TV). Yn dilyn ei llwyddiant yn Israel mae wedi ei ffrydio ar-lein yn fyd-eang ar sianel Netflix.[2]
Stori
Mae'n dilyn bywydau Shulem Shtisel (Dov Glickman), y penteulu Shtisel a Rabbi yn y yeshiva lleol,[3] yn ogystal â rhai'r aelodau eraill o'i deulu. Mae'r gyfres Shtisel, sy'n rhedeg 12 pennod fesul tymor, wedi'i leoli mewn cymdogaeth grefyddol, ddi-Rhyngrwyd.[4] Mae'r gymuned yn dilyn arferion haredi llym ac mae torri'r normau yn aml yn achosi tensiwn yn y teulu.[5] Fodd bynnag, mae'r cymeriadau, sy'n fwy agored i ffordd o fyw seciwlar, yn adlewyrchu cymedroli Geula o'u cymharu â'u cymdogion yn Mea She'arim, y gymuned gyfagos sy'n adnabyddus am eithafiaeth grefyddol.
Mae llawer o ddeinameg y gyfres yn ymwneud ag ymdrechion Akiva Shtisel (artist talentog, golygus a swil) aflwyddiannus i ganfod gwraig a bod yn driw i'w dalent artistig. Ceir cip olwg ar natur carwriaeth o fewn y gymuned Charedi gydag unigolion yn cwrdd â darpar gariadon, yn aml wedi eu trefnu gan eu teulu neu trefnydd cariadon. Ond ymdrinir hefyd ag ymdrechion ei chwaer, Giti, i ddal dau pen-llinyn yghŷd a delio gyda gŵr sy'n godinebu a chwestiynu ei ffydd. Mae ail fab y teulu, Zvi-Arye, yn ceiso byw at ddisgwyliadau ei dad ac yn ymladd gyda'i gydwybod a yw canu a cherddoriaeth yn ffordd weddus iddo fyw. Ceir rheolau clir ar wisg, cyffwrdd, bwyd, cadw'r Sabath a thrafodaethau am yr hyn sy'n kosher neu beidio. Ceir hefyd gip ar agweddau'r Charedi at y byd y tu allan i'w cymuned ei hunain.
Arloesol
Mae'r gyfres wedi cael ei hystyried yn arloesol gan ei bod yn trin bywyd teulu a chymuned o Iddewon Uniongred trwy eu tynnu oddi ar eu cymdeithasau gwleidyddol a'u darlunio fel pobl “gyffredin”.[6] Mae'r gyfres ddrama wedi llwyddo i newid barn pobl am y gymuned Charedi uniongred gan eu gweld mewn golau gwahanol.[7]
Rhyngwladol
Ym mis Hydref 2016, cyhoeddwyd bod Amazon Studios yn bwriadu ail-wneud Shtisel, a leoli yn ardal Brooklyn yn Efrog Newydd, o dan y teitl Emmis.[8] Hyd yma nid oes sôn am adnewyddu'r sioe wreiddiol Israeli am redeg am drydydd tymor.
Iaith
Mae'r gyfres ddrama yn cyd-fynd â chyfres ddrama arall o Israel am gymuned ac unigolion Iddewig uniongred, sef Srugim. Yn wahanol o Shtisel, dydy'r cymeriadau yn Srugim ddim yn Iddewon o'r gymuned Charedi (Haredi) nac yn siarad Iddeweg ond maent yn uniongred ac yn delio gyda bywyd a charwriaeth bob dydd o fewn terfynnau eu crefydd â'r crêd.
Iaith
Un hynodrwydd o'r gyfres yw natur ddwyieithog y ddeialog, gyda chymeriadau hŷn yn aml yn siarad Iddeweg gyda'i gilydd ac weithiau Hebraeg. Gellir gweld dirywiad yr iaith yn y ffaith mai dim ond Hebraeg mae'r plant iau yn ei siarad a phrin yn deall Iddeweg.
Cast
- Dov Glickman as Shulem
- Michael Aloni as Akiva Shtisel
- Neta Riskin as Giti Weiss
- Shira Haas as Ruchami Weiss
- Sarel Piterman as Zvi Arye Shtisel
- Zohar Strauss as Lippe Weiss
- Orly Silbersatz Banai as Aliza Gvili
- Ayelet Zurer as Elisheva Rotstein
- Sasson Gabai as Nukhem Shtisel
- Gal Fishel as Yosa'le Weiss
- Ori Ilovitz as Haim'ke Weiss
- Hadas Yaron as Libbi Shtisel
- Eliana Shechter as Tovi Shtisel
Dolenni
Cyfeiriadau
- ↑ Ghert-Zand, Renee (4 March 2016). "Why I Can't Stop Watching 'Shtisel'". The Forward. Cyrchwyd 5 April 2016.
- ↑ "Netflix picks up Shtisel from Dori". Rapid TV News. 18 December 2018.
- ↑ Sarkar, Barnana (January 4, 2019). "Netflix Top 10: From 'The Protector', and 'Sacred Games' to 'Money Heist', the top non-English shows on Netflix" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-01-17.
- ↑ "Netflix adds a stream of new Israeli content - Israel News - Jerusalem Post". www.jpost.com. Cyrchwyd 2019-01-17.
- ↑ Kustanowitz, Esther D. (2019-01-14). "Hit Israeli TV show 'Shtisel' pushes Haredi community boundaries". J. (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-01-17.
- ↑ Peleg, Yaron (2016). Directed by God: Jewishness in Contemporary Israeli Film and Television. Austin, Texas: University of Texas Press. t. 112. ISBN 9781477309506.
- ↑ https://www.thejc.com/comment/comment/shtisel-the-show-that-changed-my-mind-about-the-charedim-1.481155
- ↑ Kamin, Debra (17 October 2016). "Israeli Drama About Ultra-Orthodox Brood Gets American Treatment". Variety. Cyrchwyd 27 September 2017.