Shtisel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Shtisel
Genre drama
Gwlad/gwladwriaeth Israel
Iaith/ieithoedd Hebraeg Iddeweg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 24
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Yonatan Aroch a Dikla Barkai
Amser rhedeg 45 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol oh Yes (Yes TV), Netflix
Darllediad gwreiddiol 20132016
Ayelet Zurer (canol) sy'n chwarae Elisheva y ddynes weddw yn Shtisel a chariad Akiva am gyfnod. Naill ochr: Diane Keaton a Kevin Kline (2012)
Hadas Yaron sy'n chwarae Libbi Shtisel

Cyfres ddrama deledu ffuglennol o Israel yw Shtisel (Hebraeg: שטיסל) am deulu Iddewig Charedi (Haredi) o'r cyfenw hwnnw sy'n byw ym maestref Geula, Jeriwsalem.[1] Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Ori Elon a Yehonatan Indursky, a darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 29 Mehefin 2013 ar sianel deledu Israeli Hebraeg, yes Oh (rhan o Yes TV). Yn dilyn ei llwyddiant yn Israel mae wedi ei ffrydio ar-lein yn fyd-eang ar sianel Netflix.[2]

Stori[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n dilyn bywydau Shulem Shtisel (Dov Glickman), y penteulu Shtisel a rabi yn y yeshiva lleol,[3] yn ogystal â rhai'r aelodau eraill o'i deulu. Mae'r gyfres Shtisel, sy'n rhedeg 12 pennod fesul tymor, wedi'i leoli mewn cymdogaeth grefyddol, ddi-Rhyngrwyd.[4] Mae'r gymuned yn dilyn arferion haredi llym ac mae torri'r normau yn aml yn achosi tensiwn yn y teulu.[5] Fodd bynnag, mae'r cymeriadau, sy'n fwy agored i ffordd o fyw seciwlar, yn adlewyrchu cymedroli Geula o'u cymharu â'u cymdogion yn Mea She'arim, y gymuned gyfagos sy'n adnabyddus am eithafiaeth grefyddol.

Mae llawer o ddeinameg y gyfres yn ymwneud ag ymdrechion Akiva Shtisel (artist talentog, golygus a swil) aflwyddiannus i ganfod gwraig a bod yn driw i'w dalent artistig. Ceir cip olwg ar natur carwriaeth o fewn y gymuned Charedi gydag unigolion yn cwrdd â darpar gariadon, yn aml wedi eu trefnu gan eu teulu neu trefnydd cariadon. Ond ymdrinir hefyd ag ymdrechion ei chwaer, Giti, i ddal dau pen-llinyn yghŷd a delio gyda gŵr sy'n godinebu a chwestiynu ei ffydd. Mae ail fab y teulu, Zvi-Arye, yn ceiso byw at ddisgwyliadau ei dad ac yn ymladd gyda'i gydwybod a yw canu a cherddoriaeth yn ffordd weddus iddo fyw. Ceir rheolau clir ar wisg, cyffwrdd, bwyd, cadw'r Sabath a thrafodaethau am yr hyn sy'n kosher neu beidio. Ceir hefyd gip ar agweddau'r Charedi at y byd y tu allan i'w cymuned ei hunain.

Arloesol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfres wedi cael ei hystyried yn arloesol gan ei bod yn trin bywyd teulu a chymuned o Iddewon Uniongred trwy eu tynnu oddi ar eu cymdeithasau gwleidyddol a'u darlunio fel pobl “gyffredin”.[6] Mae'r gyfres ddrama wedi llwyddo i newid barn pobl am y gymuned Charedi uniongred gan eu gweld mewn golau gwahanol.[7]

Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Hydref 2016, cyhoeddwyd bod Amazon Studios yn bwriadu ail-wneud Shtisel, a leoli yn ardal Brooklyn yn Efrog Newydd, o dan y teitl Emmis.[8] Hyd yma nid oes sôn am adnewyddu'r sioe wreiddiol Israeli am redeg am drydydd tymor.

Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gyfres ddrama yn cyd-fynd â chyfres ddrama arall o Israel am gymuned ac unigolion Iddewig uniongred, sef Srugim. Yn wahanol o Shtisel, dydy'r cymeriadau yn Srugim ddim yn Iddewon o'r gymuned Charedi (Haredi) nac yn siarad Iddeweg ond maent yn uniongred ac yn delio gyda bywyd a charwriaeth bob dydd o fewn terfynnau eu crefydd â'r crêd.

Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Un hynodrwydd o'r gyfres yw natur ddwyieithog y ddeialog, gyda chymeriadau hŷn yn aml yn siarad Iddeweg gyda'i gilydd ac weithiau Hebraeg. Gellir gweld dirywiad yr iaith yn y ffaith mai dim ond Hebraeg mae'r plant iau yn ei siarad a phrin yn deall Iddeweg.

Cast[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dov Glickman as Shulem
  • Michael Aloni as Akiva Shtisel
  • Neta Riskin as Giti Weiss
  • Shira Haas as Ruchami Weiss
  • Sarel Piterman as Zvi Arye Shtisel
  • Zohar Strauss as Lippe Weiss
  • Orly Silbersatz Banai as Aliza Gvili
  • Ayelet Zurer as Elisheva Rotstein
  • Sasson Gabai as Nukhem Shtisel
  • Gal Fishel as Yosa'le Weiss
  • Ori Ilovitz as Haim'ke Weiss
  • Hadas Yaron as Libbi Shtisel
  • Eliana Shechter as Tovi Shtisel

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ghert-Zand, Renee (4 March 2016). "Why I Can't Stop Watching 'Shtisel'". The Forward. http://forward.com/culture/334808/why-i-cant-stop-watching-shtisel/. Adalwyd 5 April 2016.
  2. "Netflix picks up Shtisel from Dori". Rapid TV News. 18 December 2018. https://www.rapidtvnews.com/2018121854520/netflix-picks-up-shtisel-from-dori.html.
  3. Sarkar, Barnana (January 4, 2019). "Netflix Top 10: From 'The Protector', and 'Sacred Games' to 'Money Heist', the top non-English shows on Netflix" (yn en). https://meaww.com/top-10-non-english-shows-watch-netflix-2019-money-heist-shtisel-protector-sacred-games-dark-perfume.
  4. "Netflix adds a stream of new Israeli content - Israel News - Jerusalem Post". https://www.jpost.com/Israel-News/Netflix-adds-a-stream-of-new-Israeli-content-576965.
  5. Kustanowitz, Esther D. (2019-01-14). "Hit Israeli TV show 'Shtisel' pushes Haredi community boundaries" (yn en-US). https://www.jweekly.com/2019/01/14/hit-israeli-tv-show-shtisel-pushes-haredi-community-boundaries/.
  6. Peleg, Yaron (2016). Directed by God: Jewishness in Contemporary Israeli Film and Television. Austin, Texas: University of Texas Press. p. 112. ISBN 9781477309506. 
  7. https://www.thejc.com/comment/comment/shtisel-the-show-that-changed-my-mind-about-the-charedim-1.481155
  8. Kamin, Debra (17 October 2016). "Israeli Drama About Ultra-Orthodox Brood Gets American Treatment". Variety. https://variety.com/2016/tv/spotlight/israel-drama-orthodox-brood-gets-american-treatment-1201891017/. Adalwyd 27 September 2017.