Michael Aloni
Michael Aloni | |
---|---|
Ganwyd | מיכאל אלוני 30 Ionawr 1984 Tel Aviv |
Dinasyddiaeth | Israel |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu, llenor, model, actor teledu, sgriptiwr |
Ganed Michael Aloni (Hebraeg: מיכאל אלוני; enw llawn Michael Mark Aloni, sillefir hefyd fel Alony) ar 30 Ionawr 1984) yn Tel Aviv, Israel. Mae'n actor, cyfarwyddwr a chyflwynydd teledu Israeli.
Mae'n adnabyddus am chwarae un o'r brif rannau yn y gyfres ddrama am deulu Hasidig, Shtisel,[1] ac yn Out in the Dark [2] ac un o'r brif rannau fel 'Himmler' yn y gyfres am griw o ffrindiau sy'n gyn-filwyr, When Heroes Fly, a gynhyrchwyd gan Keshet Media Group. Yn Ebrill 2018 enillodd y gyfres y wobr 'Cyfres Orau' yn Canneseries ac mae wedi ei chomisiynu ar gyfer ail dymor.[3] Mae Aloni hefyd yn cyflwyno'r gyfres realiti boblogaidd ar deledu,The Voice ישראל (The Voice Israel) - cystadleuaeth ganu agored.[4]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Aloni yn fab i fam oedd yn gyfreithwraig a thad oedd yn gyfrifydd. Yn ystod ei gyfnod Gwasanaeth Cenedlaethol gyda IDF gwasanaethodd fel rhan o Gorfflu Addysg Marva. Astudiodd actio yn Stiwdio Actio Nissan Nativ rhwng 2006-2009. Mae hefyd wedi ymddangos mewn sawl ymgyrch hysbysebu fel model.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2005–2007 | HaShminiya | Adam Halevi | Ymddangosiadau rheolaidd |
2006 | Out of Sight | Tomer y Lifeguard* | Teitl wreiddiol: Lemarit Ain |
Ha-Alufa | Eddy Franco | 2 bennod | |
2009 | Ruin | Ben | |
2010 | Infiltration | Benny | Teitl wreiddiol: Hitganvut Yehidim |
2011 | Policeman | Nathanael | Teitl wreiddiol: Ha-shoter |
2012 | Keshet Beanan | Ffilm fer | |
Out in the Dark | Roy Schaffer | ||
2013 | A Place in Heaven | Frenchie | Teitl wreiddiol: Makom beGan Eden |
2013-2016 | Shtisel | Akiva Shtisel | Un o'r prif gymeriadau |
2014 | Keep it Cool | Uri | Ffilm fer |
Shovrei Galim | Noam | 2 bennod | |
2016 | Antenna | ||
Lucid | Ffilm fer | ||
2017 | Naor's Friends | Raz Hita | Pennod #4.10 |
Metim LeRega | Lev Alexander | Pennod #2.1 | |
And Then She Arrived | Dan | Teitl wreiddiol: VeAz Hi Hegiaa | |
2018 | Virgins | Newyddiadurwr | |
When Heroes Fly | Dotan 'Himler' Friedman | Ymddangosiad rheolaidd | |
2019 | Happy Times | Michael | ôl-gynhyrchu |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.imdb.com/name/nm2072214/
- ↑ 'Out in the Dark' director brings Palestinian-Israeli affair to light, Los Angeles Times. 26 September 2013
- ↑ Keshet’s Israeli Drama ‘When Heroes Fly’ Wins Best Series At Canneseries – Full Competition Winners Revealed Deadline. 11 April 2018
- ↑ https://13tv.co.il/entertainment/the-voice/