Teyrnas Castilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: ro:Regatul Castiliei |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: [[Castilla-La Manche]] a [[Castilla-y-León]]. |
Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: [[Castilla-La Manche]] a [[Castilla-y-León]]. |
||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:506-Castile 1210.png|thumb|chwith|250px|Teyrnas Castilla yn 1210]] |
||
[[Categori:Hanes Sbaen]] |
[[Categori:Hanes Sbaen]] |
Fersiwn yn ôl 21:01, 12 Mai 2010
Teyrnas yng ngogledd yr hyn sy'n awr yn Sbaen yn y Canol Oesoedd oedd Teyrnas Castilla (Sbaeneg: Reino de Castilla, Ffrangeg: Castille, Saesneg: Castile). Safai i'r dwyrain o Deyrnas Léon, gan ymestyn o Fae Biskaia yn y gogledd hys at ffiniau al-Andalus yn y de. Yn rhan olaf yr Oesoedd Canol, hi oedd y deyrnas fwyaf yn Sbaen.
Dechreuodd y broses o adfeddiannu Sbaen gan y Cristionogion, a elwir y Reconquista, gyda gwrthwynebiad teyrnas fychan Asturias i Fwslimiaid al-Andalus, oedd wedi meddiannu bron y cyfan o benrhyn Iberia o 711 ymlaen. Wrth i'r Cristionogion ennill tir ac ymestyn eu tiriogaethau tua'r de, ymddangosodd yr enw Castilla tua 800.
Ar y dechrau, roedd Castillia yn cael eu rheoli gan frenhinoedd Asturias a León. Yn 1037, ffurfiodd Ferdinand I deyrnas unedig Castillia a León. Yn 1058, dechreuodd Ferdinand gyfres o ryfeloedd yn erbyn y Mwslimiaid, ac arweiniodd buddugoliaethau'r Cristionogion ym mrwydrau Alarcos a la Navas de Tolosa at goncro'r tiriogaethau a elwir yn Castilla Newydd.
Tyfodd y deyrnas yn sylweddol yn ystod teyrnasiad Alphonso VI (1065-1109) ac Alphonso VII (1126-1157). Tyfodd bywyd diwylliannol y deyrnas dan Alphono X, ond dilynwyd hyn gan gyfnod hir o ymryson mewnol. Yn 1469, priododd Isabel I, brenhines Castilla a Ferdinand II, brenin Aragon, gan ddechrau'r broses o uno teyrnasoedd Castilla ac Aragon, a chreu Teyrnas Sbaen.
Erys yr enw Castilla yn enwau dwy gymuned ymreolaethol yn Sbaen: Castilla-La Manche a Castilla-y-León.