Llenyddiaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Llên Cymru]] |
[[Categori:Llên Cymru]] |
||
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]] |
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]] |
||
[[Categori:Elusennau]] |
|||
[[Categori:Sefydliadau 1959]] |
[[Categori:Sefydliadau 1959]] |
||
Fersiwn yn ôl 14:33, 6 Mawrth 2010
Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r Academi fel y'i gelwir yn gyffredinol, yn 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg yn gallu bod yn aelodau. Yn 1968, crewyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, sef Meic Stephens, ar y cyd gydag aelodau o’r Guild of Welsh Writers.
Mae'r Academi yn "Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru" ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith pethau eraill, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis Llyfr y Flwyddyn). Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd.
Yr Academi sy'n cyhoeddi Gwyddoniadur Cymru yn 2007, y cyntaf erioed i'w gyhoeddi, ac fe wneir hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda chefnogaeth ariannol y Loteri. Eisoes mae'r Academi wedi cyhoeddi Geiriadur yr Academi (1995).