Iestyn Tyne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B Gwybodlen wicidata
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl
| dateformat = dmy
| nationality = {{banergwlad|Cymru}}
}}
Bardd, llenor, a cherddor yw '''Iestyn Tyne''' (ganwyd [[3 Gorffennaf]] [[1997]]). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol ''[[Y Stamp]]'', ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin [[Patrobas]] a [[Pendevig]]. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.
Bardd, llenor, a cherddor yw '''Iestyn Tyne''' (ganwyd [[3 Gorffennaf]] [[1997]]). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol ''[[Y Stamp]]'', ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin [[Patrobas]] a [[Pendevig]]. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.



Fersiwn yn ôl 23:41, 19 Ionawr 2019

Iestyn Tyne
Ganwyd3 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bardd, llenor, a cherddor yw Iestyn Tyne (ganwyd 3 Gorffennaf 1997). Ef yw un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn llenyddol Y Stamp, ac mae'n aelod o'r bandiau gwerin Patrobas a Pendevig. Mae'n byw yn Twthill, Caernarfon.

Bywyd cynnar ac addysg

Mae Iestyn yn fab ffarm o Foduan ym Mhen Llŷn. Saesneg oedd iaith ei aelwyd adref, ond dysgodd siarad Cymraeg yn gyflym iawn yn yr ysgol. Mynychodd Ysgol Gynradd Pentreuchaf, Ysgol Uwchradd Botwnnog. Aeth ymlaen i wneud ei lefelau A yng Nholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli gan astudio amrywiwaeth o'r creadigol a'r ymarferfol - Cymraeg, Celf, Daearyddiaeth a Busnes. Yn ystod ei amser yn y coleg, bu'n chwarae mewn band 'Y Chwedlau' a ddaeth i'w adnabod wedyn fel Patrobas, sydd wedi ryddhau EP ac wedi teithio i berfformio yn Iwerddon, Llydaw a Gwlad y Bas. Ar yr un pryd roedd grŵp gwerin Ciaridyms gyda Gwilym Bowen Rhys a Gethin Griffiths.

Wedi hynny aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiodd yn y Gymraeg yn 2018. Roedd am gyfnod yn aelod o'r ddeuawd, Gwawn, yn perfformio cerddoriaeth acwstig yn ardal Aberystwyth. Mae hefyd yn aelod o'r siwpyr-grŵp gwerin arbrofol, Pendevig.[1]

Gyrfa

Mae'n gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Sir Conwy yn rhan amser.

Barddoni

Yn 2016, enillodd goron Eisteddfod yr Urdd.[2] Hunan-gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Addunedau, yn 2017;[3] a chyhoeddodd ei ail gyfrol, Ar adain, drwy Gyhoeddiadau'r Stamp yn 2018.[4]

Y mae hefyd yn gyfrifol am y blog Casglu'r Cadeiriau sy'n olrhain cadeiriau eisteddfodol sydd naill ai ar goll neu wedi mynd yn angof.

Llyfryddiaeth

  • Addunedau (2017)
  • Ar adain (2018)

Dolenni allanol

Cyfeiriadau